Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, highlights the work of a national cancer charity.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, joined fellow members in Cardiff, recently, at an event to shine a light on the importance of Maggie’s psychological support around the theme “cancer and mental health” in Wales.
He said:
I am always happy to support any cancer charities and particularly Maggie's which is currently having a new cancer support centre built in the grounds of Glan Clwyd Hospital in Bodelwyddan.
We already have a dedicated cancer centre based on the Glan Clwyd Hospital site and I welcome any further additions to provide free support and help and advice for my constituents suffering from this illness.
I will be really pleased to see this venture up and running nest year as it is very important that we continue to support people living with cancer in North Wales.
In Wales, there are currently two Maggie’s centres; one at the Singleton Hospital in Swansea and one at the Velindre Cancer Centre in Cardiff. A third centre will be opening at Ysbyty Glan Clywd in North Wales in 2025.
Research shows that 3 in 5 (58%) people who have or have had cancer feel that the mental challenge of cancer is harder to cope with than the physical treatment and side effects.
Maggie’s delivers expert psychological and practical support to cancer patients and their families through a personalised evidence-based programme of support.
Maggie’s Centre in Bodelwyddan, has been designed, commissioned and funded by the Steve Morgan Foundation and is planned to open in 2025.
The centre’s expert staff will support people living with cancer, as well as family and friends, from across the whole region - including Bangor and Wrexham.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad i dynnu sylw at waith Maggie's
Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn tynnu sylw at waith elusen ganser genedlaethol.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, â chyd-aelodau yng Nghaerdydd yn ddiweddar, mewn digwyddiad i dynnu sylw at bwysigrwydd cefnogaeth seicolegol Maggie’s ynghylch y thema "canser ac iechyd meddwl" yng Nghymru.
Meddai:
Rwyf bob amser yn hapus i gefnogi unrhyw elusennau canser ac yn enwedig Maggie's. Mae canolfan cymorth canser newydd yn cael ei hadeiladu i’r elusen ar hyn o bryd ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Mae gennym ni eisoes ganolfan benodol ar gyfer canser ar safle Ysbyty Glan Clwyd ac rwy'n croesawu unrhyw ychwanegiadau pellach i ddarparu cymorth a chefnogaeth a chyngor am ddim i'm hetholwyr sy'n dioddef o'r salwch hwn.
Byddaf yn falch iawn o weld y fenter hon yn rhedeg y flwyddyn nesaf gan ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser yn y Gogledd.
Yng Nghymru, mae dwy ganolfan gan Maggie’s ar hyn o bryd; un yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ac un yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Bydd y drydedd ganolfan yn agor yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Gogledd yn 2025.
Mae ymchwil yn dangos bod 3 o bob 5 (58%) o bobl sydd â chanser neu sydd wedi cael canser yn teimlo bod her feddyliol canser yn anoddach ymdopi â hi na'r driniaeth gorfforol a'r sgîl-effeithiau.
Mae Maggie's yn darparu cefnogaeth seicolegol ac ymarferol arbenigol i gleifion canser a'u teuluoedd drwy raglen gymorth ar sail tystiolaeth sydd wedi’i theilwra i’r unigolyn.
Mae Canolfan Maggie's ym Modelwyddan wedi cael ei dylunio, ei chomisiynu a'i hariannu gan Sefydliad Steve Morgan ac mae disgwyl iddi agor yn 2025.
Bydd staff arbenigol y ganolfan yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â theulu a ffrindiau, o bob rhan o'r rhanbarth cyfan - gan gynnwys Bangor a Wrecsam.