Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is once again backing a week- long celebration of Welsh food and farming.
Mr Rowlands, a keen supporter of the farming industry, is supporting the National Farming Union Cymru’s Celebration of Welsh Food & Farming starting on Monday June 19.
He said:
I am delighted to see this week long celebration return after its success in 2022 and look forward to joining members at a special event to celebrate in Cardiff Bay.
I am very proud to back this excellent campaign which aims to show and celebrate the vital role our farmers play in producing food for us all. It is an excellent idea and I am sure it will give people across Wales the chance to learn more about Welsh farmers who work day in and out to produce the nation’s food.
It is important people realise the contribution farmers make as they also help in other ways including enhancing the environment, boosting the Welsh economy and supporting tourism.
I take a great interest in agricultural matters here in North Wales and often visit farms to talk to farmers and I shall certainly be supporting them to highlight the importance of Welsh farming to Wales and its communities.
Following the success of its inaugural Welsh Food and Farming Week last year, NFU Cymru has organised a week-long campaign of activities aimed at promoting all that’s great about Welsh food and agriculture to politicians, stakeholders and the wider public.
The union’s Celebration of Welsh Food & Farming kicks off on Monday June 19 when farmers are being encouraged to use social media to highlight their important role.
Among the events planned on Wednesday June 21, NFU Cymru is hosting a virtual live lesson in both English and Welsh language for school children across the country to learn more about the farming industry and where their food comes from. It is a free event for all schools to attend and you can register by visiting the NFU Cymru website where more resources are available.
NFU Cymru President Aled Jones said:
Given the success of last year’s Welsh Farming Week it was an easy decision for us as a union to try and build on the fantastic support we received and to make this year’s event even bigger and better. There is no getting away from the fact that Welsh farming is facing significant challenges at present and has done for some time. This week is about spreading positive messaging about our role in feeding the nation healthy, climate friendly food, while enhancing the environment and ensuring prosperous rural communities.
NFU Cymru Deputy President Abi Reader added:
This is a brilliant opportunity for us to ensure politicians, stakeholders and the Welsh public understand the importance of Welsh farming and it’s important that all our members help us spread the positivity, whether that’s via social media, by attending the events we have planned, or hosting on-farm visits. We can all play a part in making this week a huge success.
Follow, like and share the week of campaigning activity on NFU Cymru’s social media channels by using the hashtags #WelshFarmingWeek and #WythnosFfermioCymreig.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch undeb ffermio i hyrwyddo amaeth Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, unwaith eto yn cefnogi wythnos o ddathlu bwyd a ffermio Cymru.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o'r diwydiant ffermio, yn cefnogi dathliad Undeb Ffermio Cenedlaethol Cymru o Fwyd a Ffermio Cymru sy'n dechrau ddydd Llun 19 Mehefin.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o weld y dathliad wythnos o hyd hwn yn dychwelyd ar ôl ei lwyddiant yn 2022 ac edrychaf ymlaen at ymuno ag aelodau mewn digwyddiad arbennig i ddathlu ym Mae Caerdydd.
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ymgyrch ragorol hon sy'n ceisio dangos a dathlu'r rôl hanfodol y mae ein ffermwyr yn ei chwarae wrth gynhyrchu bwyd i bob un ohonom. Mae'n syniad gwych ac rwy'n siŵr y bydd yn gyfle i bobl ledled Cymru ddysgu mwy am ffermwyr Cymru sy'n gweithio o ddydd i ddydd i gynhyrchu bwyd y genedl.
Mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli'r cyfraniad y mae ffermwyr yn ei wneud gan eu bod hefyd yn helpu mewn ffyrdd eraill gan gynnwys gwella'r amgylchedd, rhoi hwb i economi Cymru a chefnogi twristiaeth.
Rwy'n cymryd diddordeb mawr mewn materion amaethyddol yma yn y Gogledd ac yn aml byddaf yn ymweld â ffermydd i siarad â ffermwyr a byddaf yn sicr yn eu cefnogi er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd ffermio Cymru i Gymru a'i chymunedau.
Yn dilyn llwyddiant ei Wythnos Bwyd a Ffermio gyntaf yng Nghymru y llynedd, mae NFU Cymru wedi trefnu ymgyrch wythnos o hyd o weithgareddau gyda'r nod o hyrwyddo popeth sy'n wych am fwyd ac amaethyddiaeth Cymru i wleidyddion, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae Dathliad Bwyd a Ffermio Cymru yr undeb yn dechrau ddydd Llun 19 Mehefin pan fydd ffermwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at eu rôl bwysig.
Ymhlith y digwyddiadau a gynlluniwyd ddydd Mercher 21 Mehefin, mae NFU Cymru yn cynnal gwers fyw rithiol yn Gymraeg a Saesneg i blant ysgol ledled y wlad er mwyn iddyn nhw ddysgu mwy am y diwydiant ffermio ac o ble mae eu bwyd yn dod. Mae'n ddigwyddiad rhad ac am ddim i bob ysgol fynychu a gallwch gofrestru drwy ymweld â gwefan NFU Cymru lle mae mwy o adnoddau ar gael.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:
O ystyried llwyddiant Wythnos Ffermio Cymru y llynedd roedd yn benderfyniad hawdd i ni fel undeb geisio adeiladu ar y gefnogaeth wych a gawsom ac i wneud y digwyddiad eleni yn un gwell nag erioed. Does dim dianc rhag y ffaith bod ffermio yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol ar hyn o bryd ac wedi gwneud ers peth amser. Mae'r wythnos hon yn ymwneud â lledaenu negeseuon cadarnhaol am ein rôl wrth fwydo’r genedl â bwyd iach, sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd, tra’n gwella'r amgylchedd a sicrhau cymunedau gwledig llewyrchus.
Ychwanegodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Abi Reader:
Dyma gyfle gwych i ni sicrhau bod gwleidyddion, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yng Nghymru yn deall pwysigrwydd ffermio yng Nghymru ac mae'n bwysig bod ein holl aelodau yn ein helpu i ledaenu'r positifrwydd, boed hynny trwy'r cyfryngau cymdeithasol, trwy fynychu'r digwyddiadau rydyn ni wedi'u cynllunio neu gynnal ymweliadau ar y fferm. Gall pob un ohonom chwarae ei ran wrth wneud yr wythnos hon yn llwyddiant ysgubol.
Dilynwch, hoffwch a rhannwch yr wythnos o weithgarwch ymgyrchu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol NFU Cymru drwy ddefnyddio'r hashnodau #WythnosFfermioCymreig a #WelshFarmingWeek.