Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to back food and drink festivals across his region.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, is urging the public to support the upcoming Mold, Wrexham and Llangollen food festivals.
He said:
As a big supporter of promoting tourism in North Wales it is great to see the return of all these popular food festivals once again.
Wrexham Feast, which is being held on September 21 and 22 is always very popular and attracts hundreds of visitors from the Wrexham area and all over North Wales.
Wrexham is a tourist attraction in its own right and I am delighted to see events like this are continuing to promote this vibrant city.
It also follows the highly popular Mold Food and Drink Festival which is being held in the town from September 13-15. With Llangollen Food Festival planned for October 12 and 13.
It really is fantastic to see North Wales hosting so many festivals because it is a great opportunity not only to bring communities together but it gives local producers a chance to show their wares to the public and visitors alike.
I am a great supporter of these sort of events as they are also a great way to promote our towns as tourist destinations in North Wales.
As chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism, I believe they really do encourage more visitors into our towns who spend money to help the local economy.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiadau bwyd a diod sydd wedi'u trefnu ar gyfer y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi gwyliau bwyd a diod ar draws ei ranbarth.
Mae Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, yn annog y cyhoedd i gefnogi gwyliau bwyd yr Wyddgrug, Wrecsam a Llangollen.
Meddai:
Fel cefnogwr brwd o dwristiaeth yn y Gogledd, mae'n wych gweld yr holl wyliau bwyd poblogaidd hyn yn dychwelyd unwaith eto.
Mae Wrexham Feast, sy'n cael ei chynnal ar 21 a 22 Medi bob amser yn boblogaidd iawn ac yn denu cannoedd o ymwelwyr o ardal Wrecsam ac o bob cwr o’r Gogledd.
Mae Wrecsam yn atyniad i dwristiaid ynddo'i hun ac rwy'n falch iawn o weld digwyddiadau fel hyn yn parhau i hyrwyddo'r ddinas fywiog hon.
Mae hefyd yn dilyn Gŵyl Fwyd a Diod boblogaidd iawn yr Wyddgrug sy'n cael ei chynnal yn y dref 13-15 Medi. Mae Gŵyl Fwyd Llangollen wedi'i threfnu ar gyfer 12 a 13 Hydref.
Mae'n wych gweld y Gogledd yn cynnal cymaint o wyliau gan fod hyn yn gyfle gwych nid yn unig i ddod â chymunedau at ei gilydd ond mae'n rhoi cyfle i gynhyrchwyr lleol ddangos eu nwyddau i'r cyhoedd ac i ymwelwyr fel ei gilydd.
Rwy'n gefnogwr brwd o'r math hwn o ddigwyddiad gan ei fod hefyd yn ffordd wych o hyrwyddo ein trefi fel cyrchfannau i dwristiaid yn y Gogledd.
Fel cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwy'n credu y dylem yn wir fynd ati i annog mwy o ymwelwyr i'n trefi a gwario arian er mwyn helpu'r economi leol.