Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing an initiative to help residents in Wrexham improve their computer skills.
Mr Rowlands was commenting after hearing about free community courses being run by Coleg Cambria this month.
He said:
I am really pleased to hear about this initiative which is a great way of assisting those who struggle with technology.
More than ever these days we all have to rely on computers and I am delighted to see Coleg Cambria organising these free sessions.
The courses are ideal for building your confidence on a computer whether you are a beginner or simply need help to get online and well worth attending.
A basic computer skills course is being held on Monday September 9, from 9.30-11.30am at Plas Madoc Leisure Centre. On the same day there will also be taster sessions to update your computer skills and build your confidence at Maximus Offices, Regent Street, Wrexham from 1-3pm.
On Thursday September 12 there will be another basic computer skills course at Gwersyllt Community Resource Centre from 1-3pm.
For more information and to book a place email [email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi cyrsiau cyfrifiadurol am ddim yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi menter i helpu trigolion Wrecsam i wella eu sgiliau cyfrifiadurol.
Gwnaeth Mr Rowlands y sylw ar ôl clywed am gyrsiau cymunedol am ddim sy'n cael eu rhedeg gan Goleg Cambria y mis hwn.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed am y fenter hon sy'n ffordd wych o gynorthwyo'r rhai sy'n cael trafferth gyda thechnoleg.
Y dyddiau hyn, yn fwy nag erioed, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ddibynnu ar gyfrifiaduron ac rwy'n falch iawn o weld Coleg Cambria yn trefnu'r sesiynau rhad ac am ddim hyn.
Mae'r cyrsiau'n ddelfrydol ar gyfer magu’ch hyder ar gyfrifiadur, p'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n syml angen help i fynd ar-lein.
Cynhelir cwrs sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol ddydd Llun 9 Medi, rhwng 9.30-11.30am yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc. Ar yr un diwrnod, bydd sesiynau blasu hefyd i ddiweddaru’ch sgiliau cyfrifiadurol a magu’ch hyder yn Swyddfeydd Maximus, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam rhwng 1-3pm.
Ddydd Iau 12 Medi bydd cwrs sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol arall yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt rhwng 1-3pm.
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, e-bostiwch [email protected].