Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to get together and enjoy a cuppa and a cake to raise money for Tenovus Cancer Care.
Mr Rowlands, a big supporter of cancer charities across North Wales, is supporting the charity which is currently holding its annual ‘Tea for Ten’ campaign.
As an MS for North Wales I am always happy to support any fundraising campaigns which help to highlight the work of a charity.
I am now calling on my constituents to get together and show their support by taking part in the ‘Tea for Ten’ campaign, by holding coffee mornings, tea parties or cake sales during the campaign which runs from June 1 – August 31.
It is also great to see that they will have a presence at the popular annual Anglesey Show this year which attracts thousands of visitors from across North Wales and further afield on Tuesday August 13 and Wednesday August 14.
Volunteers and staff will be on hand to offer help and advice and raise awareness of the services of Tenovus Cancer Care.
According to the statistics, 1 in 10 Cancer patients seek advice from a mental health professional and if you have cancer or you are close to someone who has, then Tenovus Cancer Care can help. It runs a free Cancer Callback service, for those diagnosed with cancer to seek support as they go through treatment, with the phone support coming from a dedicated nurse.
The organisation brings treatment, emotional support and practical advice to where it matters the most, the heart of the community.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad codi arian ar gyfer Gofal Canser Tenovus
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i ddod at ei gilydd a mwynhau paned a chacen i godi arian ar gyfer Gofal Canser Tenovus.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd i elusennau canser ar draws y Gogledd, yn cefnogi'r elusen sy'n cynnal ei hymgyrch flynyddol 'Tea for Ten' ar hyn o bryd.
Fel Aelod Seneddol dros Ranbarth Gogledd Cymru, rwyf bob amser yn hapus i gefnogi unrhyw ymgyrchoedd codi arian sy'n helpu i dynnu sylw at waith elusen.
Rwyf nawr yn galw ar fy etholwyr i ddod at ei gilydd a dangos eu cefnogaeth drwy gymryd rhan yn ymgyrch 'Tea for Ten', drwy gynnal boreau coffi, partïon te neu werthu cacennau yn ystod yr ymgyrch sy'n para rhwng 1 Mehefin a 31 Awst.
Hefyd, mae'n braf gweld y byddan nhw'n Sioe Môn eleni, sioe hynod boblogaidd sy'n denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o'r Gogledd a thu hwnt ddydd Mawrth 13 Awst a dydd Mercher 14 Awst.
Bydd gwirfoddolwyr a staff wrth law i gynnig help a chyngor ac i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau Gofal Canser Tenovus.
Yn ôl yr ystadegau, mae 1 o bob 10 o gleifion canser yn gofyn am gyngor gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol ac os oes gennych chi ganser neu os ydych chi'n agos at rywun sydd â chanser, gall Gofal Canser Tenovus helpu. Mae'n rhedeg gwasanaeth Galw Nôl rhad ac am ddim, er mwyn i rai sydd wedi cael diagnosis o ganser gael cefnogaeth wrth fynd trwy driniaeth, gyda chymorth ar y ffôn gan nyrs benodol.
Mae'r sefydliad yn dod â thriniaeth, cymorth emosiynol a chyngor ymarferol i'r lle pwysicaf, sef calon y gymuned.