Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to get involved with tidying up their local beaches.
Mr Rowlands, a keen supporter of improving the environment and keeping the coast free from litter is urging people to support this year's Great British Beach Clean, taking place between Friday 20th - Sunday 29th September 2024.
He said:
During the 10 days the Marine Conservation Society is calling on us all to do our bit to help protect the environment and join a litter pick on our local beaches.
I think it is a wonderful campaign as it is fantastic to see people working together to make a difference in their communities and it can also be good fun.
I was pleased to see that the amount of litter collected last year has reduced.
Litter continues to blight our local environment, especially on our coastal areas and I think it is vitally important we all take responsibility to collect and safely dispose of it from our streets, green spaces and beaches.
There are several beach cleans planned along the North Wales coast including Rhyl, Prestatyn and Llandudno and I would urge everyone to set aside some time and get involved.
The Great British Beach Clean, is a week-long event, where hundreds of beach cleans take place up and down the UK.
Last year the MCS received 108 surveys from across Wales, with 1,156 volunteers taking part and giving 1,546 hours of their time to clean Welsh beaches.
There were some encouraging trends, with the amount of litter in Wales decreasing by 15% compared to 2022. However, they did see a 48% increase of sewage-related items on Wales’ beaches and an 8% increase in drinks-related litter in Wales compared to 2022
With the help of supporters, The Marine Conservation Society is working to clean up beaches all around the UK and Northern Ireland and every year in September, run its flagship Great British Beach Clean event to encourage people to get involved.
For more details and information on where beach cleans will be taking place near you go to:
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch Glanhau Traethau Prydain 2024
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar ei etholwyr i gymryd rhan mewn ymgyrch i dacluso eu traethau lleol.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o wella'r amgylchedd a chadw'r arfordir yn ddi-sbwriel, yn annog pobl i gefnogi Ymgyrch Glanhau Traethau Prydain, a gynhelir eleni rhwng dydd Gwener 20 a dydd Sul 29 Medi 2024.
Meddai:
Yn ystod y 10 diwrnod, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn galw ar bob un ohonom i wneud ein rhan i helpu i ddiogelu'r amgylchedd ac ymuno â chasgliad sbwriel ar ein traethau lleol.
Mae’n ymgyrch wych – ac yn dipyn o hwyl - ac mae’n braf gweld pobl yn gweithio gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Roeddwn i’n falch o weld bod y swm o sbwriel a gasglwyd y llynedd wedi gostwng.
Mae sbwriel yn parhau i amharu ar ein hamgylchedd lleol, yn enwedig ein hardaloedd arfordirol, ac mae’n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd y cyfrifoldeb i'w gasglu a'i waredu'n ddiogel o'n strydoedd, ein mannau gwyrdd a'n traethau.
Mae nifer o ymgyrchoedd glanhau traethau wedi'u trefnu ar hyd arfordir y Gogledd, gan gynnwys yn y Rhyl, Prestatyn a Llandudno, a byddwn yn annog pawb i neilltuo peth amser a chymryd rhan.
Mae Glanhau Traethau Prydain yn ddigwyddiad wythnos o hyd, lle mae cannoedd o draethau yn cael eu glanhau ar hyd a lled y DU.
Y llynedd, derbyniodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol 108 o arolygon o bob rhan o Gymru, gyda 1,156 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan gan roi 1,546 awr o'u hamser i lanhau traethau Cymru.
Roedd rhai tueddiadau calonogol, gyda maint y sbwriel yng Nghymru yn gostwng 15% o'i gymharu â 2022. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd o 48% yn nifer yr eitemau cysylltiedig â charthffosiaeth ar draethau Cymru a chynnydd o 8% mewn sbwriel sy'n gysylltiedig â’r sector diodydd yng Nghymru o'i gymharu â 2022.
Gyda chymorth cefnogwyr, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn gweithio i lanhau traethau ledled y DU a Gogledd Iwerddon a bob blwyddyn ym mis Medi, yn cynnal ei digwyddiad Glanhau Traethau Prydain ac yn annog pobl i gymryd rhan.
Am ragor o fanylion a gwybodaeth am ymgyrchoedd glanhau yn eich ardal chi ewch i: