Sam Rowlands MS for North Wales got on his bike to encourage more people to try electric bikes.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, tried out an e-bike outside the Senedd as part of a national campaign.
He said:
I am happy to support any initiatives which will encourage us all to become more active and get out and about in the fresh air and I am delighted one of the schemes is running in North Wales.
The Sustrans Cymru’s e-bike project is an excellent idea and will enable more people to use electric bikes and travel actively and sustainably around communities. Where possible the e-bike is a great alternative for some journeys and I was delighted to jump on one to support the campaign.
Active travel is not just important for the fight against climate change and reducing air pollution. It is also great for our physical health and well-being and I am happy to back any measures to encourage more of us to use electric cycles.
Electric bikes are becoming more and more popular and helping people to access the services they need to live happy, healthy lives.
Sustrans Cymru, who are part of a UK wide charity promoting active travel, are running an innovative scheme to encourage more use of e-bikes.
E-Move is an e-cycle loan scheme, which is delivered across Wales including Rhyl and its surrounding areas and helps people who may not be able to meet the cost of electric bikes.
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter i helpu i’n gwneud yn fwy egnïol
Neidiodd Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru ar ei feic i annog mwy o bobl i roi cynnig ar feiciau trydan.
Rhoddodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, gynnig ar e-feic y tu allan i’r Senedd fel rhan o ymgyrch genedlaethol.
Meddai:
Rwy’n falch o gael cefnogi unrhyw fentrau a fydd yn ein hannog i fod yn fwy egnïol a mynd allan i’r awyr agored ac rwy’n falch iawn bod un o’r cynlluniau yn cael ei gynnal yn y Gogledd.
Mae prosiect e-feic Sustrans Cymru yn syniad rhagorol a bydd yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio beiciau trydan a theithio’n llesol ac yn gynaliadwy o gwmpas cymunedau. Lle’n bosibl mae e-feiciau’n opsiwn amgen gwych ar gyfer rhai teithiau ac roeddwn i wrth fy modd yn cael neidio ar un i gefnogi’r ymgyrch.
Mae teithio llesol yn bwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a lleihau llygredd aer. Mae’n wych hefyd ar gyfer iechyd a lles corfforol ac rwy’n falch o gefnogi unrhyw fesurau i annog mwy ohonom i ddefnyddio beiciau trydan.
Mae beiciau trydan yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac yn helpu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach a hapus.
Mae Sustrans Cymru, sy’n rhan o elusen DU gyfan sy’n hyrwyddo teithio llesol, yn cynnal cynllun arloesol i annog rhagor o ddefnydd o e-feiciau.
Mae E-Move yn gynllun benthyg e-feiciau, a ddarperir ledled Cymru yn cynnwys y Rhyl a’r cyffiniau, ac mae’n helpu pobl nad ydynt yn gallu fforddio beiciau trydan o reidrwydd.