Mr Rowlands, Welsh Conservative is supporting a Jobs Fair being held at Broughton Park this Saturday.
He said:
I am pleased to promote this event which will showcase the wide range of careers and job opportunities available in the area and help to improve your chances of employment.
It is an excellent initiative and gives genuine job seekers the opportunity to meet with prospective employers and get the right advice on skills and training in various fields.
I would urge anyone looking for employment to attend.
Communities For Work Flintshire, Jobcentre Plus and Careers Wales are bringing together local employers, service providers and job seekers at Broughton Park on Saturday September 24 between 10am and 2pm.
Local employers who have confirmed their presence at the Jobs fair include; Next, Clogau, Entertainer, Body Shop, Fragrance Shop, Boots, Hays Travel, The Card Factory, Tim Hortons and many more.
Alan Barker, Centre Manager at Broughton, said: “In previous years, our Jobs fair has proved massively successful in finding hundreds of jobseekers positions at the centre. The past few years have been difficult for so many people, so we’re so excited to be bringing some brilliant opportunities to those in the local community looking for a new role or challenge.”
For more information please contact Communities for Work [email protected] or [email protected] or Paul Murphy at Jobcentre Plus [email protected] on 07748 881647.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Ffair Swyddi ym Mharc Brychdyn y penwythnos hwn
Mae Mr Rowlands o'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi Ffair Swyddi sy'n cael ei chynnal ym Mharc Brychdyn y Sadwrn hwn.
Meddai:
Rwy'n falch o hyrwyddo'r digwyddiad hwn a fydd yn arddangos yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa a swyddi sydd ar gael yn yr ardal ac yn helpu i wella eich siawns o gael gwaith.
Mae'n fenter ardderchog ac mae'n gyfle i geiswyr gwaith dilys gyfarfod â darpar gyflogwyr a chael y cyngor iawn ar sgiliau a hyfforddiant mewn gwahanol feysydd.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am waith i fod yn bresennol.
Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr, darparwyr gwasanaethau a cheiswyr gwaith lleol ynghyd ym Mharc Brychdyn ddydd Sadwrn 24 Medi rhwng 10am a 2pm.
Mae'r cyflogwyr lleol sydd wedi cadarnhau eu presenoldeb yn y Ffair Swyddi yn cynnwys; Next, Clogau, Entertainer, Body Shop, Fragrance Shop, Boots, Hays Travel, The Card Factory, Tim Hortons a llawer mwy.
Dywedodd Alan Barker, Rheolwr y Ganolfan ym Mrychdyn: “Mewn blynyddoedd blaenorol, mae ein Ffair Swyddi wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran dod o hyd i swyddi i gannoedd o geiswyr gwaith yn y ganolfan. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i gymaint o bobl, felly rydyn ni wrth ein bodd o fedru rhoi cyfleoedd gwych i'r rhai yn y gymuned leol sy'n chwilio am swydd neu her newydd.”
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Cymunedau am Waith [email protected] neu [email protected] neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith [email protected] ar 07748881647