Sam Rowlands MS for North Wales is backing a council initiative to help residents improve their digital skills.
Flintshire County Council and partners have launched a new online resource aimed at helping residents discover digital technology and build confidence in digital skills.
He said:
In the modern world it is vital people are able to access broadband and get online, not only for running a business but, increasingly. for daily life. Any help which local authorities can give will make a real difference.
Almost everything you need to do nowadays can be carried out at the touch of a button, however, learning to use the internet and using new technology can be extremely daunting for some people.
I am delighted to see this resource launched by Flintshire County Council and I would urge anyone who wants to get more out of surfing the web to support this initiative.
The Hub is aimed at people who are digitally excluded and will help them grow their digital knowledge. It will also show them how you can support friends, family or neighbours who are less digital savvy to get on line.
Programme Manager, Dewi Smith of Digital Communities Wales said he hoped residents would explore and interact with the wealth of resources provided.
To view the Hub, go to Digital Flintshire. Support is available for those not online at Flintshire Connects Centres or local libraries.
Sam Rowlands AS yn cefnogi lansio Hwb Digidol newydd Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn cefnogi menter gan y cyngor i helpu trigolion i wella eu sgiliau digidol.
Mae Cyngor Sir y Fflint a phartneriaid wedi lansio adnodd ar-lein newydd gyda'r nod o helpu trigolion i ddarganfod technoleg ddigidol a magu hyder mewn sgiliau digidol.
Dywedodd:
Yn y byd modern, mae'n hanfodol bod pobl yn gallu cael gafael ar fand eang a mynd ar-lein, nid yn unig ar gyfer rhedeg busnes ond, yn gynyddol, ar gyfer bywyd bob dydd. Bydd unrhyw gymorth y gall awdurdodau lleol ei roi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gellir gwneud bron pob dim y mae angen i chi ei wneud y dyddiau hyn wrth bwyso botwm, fodd bynnag gall dysgu defnyddio'r rhyngrwyd a defnyddio technoleg newydd fod yn frawychus iawn i rai pobl.
Rwy'n falch iawn o weld yr adnodd hwn yn cael ei lansio gan Gyngor Sir y Fflint a byddwn yn annog unrhyw un sydd am elwa mwy ar syrffio'r we i gefnogi'r fenter hon.
Mae'r Hwb ar gyfer pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol a bydd yn eu helpu i ddatblygu eu gwybodaeth ddigidol. Bydd yn dangos iddynt hefyd sut y gallwch helpu ffrindiau, teulu neu gymdogion sy'n llai hyderus yn ddigidol i fynd ar-lein.
Dywedodd Rheolwr y Rhaglen, Dewi Smith o Gymunedau Digidol Cymru ei fod yn gobeithio y byddai trigolion yn archwilio ac yn rhyngweithio â'r cyfoeth o adnoddau sydd ar gael.
I weld yr Hwb, ewch i Sir y Fflint Digidol. Mae cymorth ar gael i'r rhai nad ydynt ar-lein yng Nghanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu neu lyfrgelloedd lleol.