Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed an initiative to encourage more interest in nature.
Mr Rowlands, a keen supporter of the outdoors and the environment was commenting after hearing about a second ‘Nature Day’ held at the historic Nantclwyd y Dre in Ruthin.
He said:
I am always happy to support any initiatives which encourages all ages to become involved and find out more about local nature especially in my region of North Wales.
The day attracted over 300 visitors, which is an excellent turn out and just shows how much enthusiasm there is for this subject.
I really think it is vital for our future that we all take an interest in what is around us and events like these in such a historic and interesting setting are an excellent way of getting the message across.
The ‘Nature Day’ was organised by Bionet the Local Nature Partnership for North East Wales, covering the counties of Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham. They are a partnership of organisations and individuals who work to conserve, protect and enhance the biodiversity of North East Wales for current and future generations.
The event was aimed at helping people understand the roles of some of the conservation organisations that look after nature across North East Wales.
People of all ages were able to chat with representatives from Bionet, Chester University, Denbighshire County Councils Tree Nursery, Clocaenog Red Squirrel's Trust, Curlew Connections Wales, Denbighshire County councils Nature For Health, Ruthin Friends of the Earth, North Wales Butterfly Conservation, North Wales Wildlife Trust and Wild Ground.
Fun family activities were held throughout the day including ‘make your own curlew’, potting your own wildflowers, facepainting, live storytelling sessions, and willow weaving workshops.
Clare Owen, BIONET Project Officer, said:
The day went really well, the weather played its part and it was fantastic to see everyone having a go at the activities we put on and also taking time to really stop and learn about the important conservation work going on across the Bionet region. Our aim was to connect people to nature and based on the feedback received we definitely achieved that. I’d like to say a huge thank you to all those involved and to all those who attended.
Kate Thomson, manager of Nantclwyd y Dre Historic House and Gardens said:
It was brilliant to welcome so many people, of all ages, who were truly engaged with the conservation organisations and interested in how they can help to protect our natural world. A very big thank you to all those who helped make it such a successful event at Nantclwyd y Dre.
Sam Rowlands AS yn cefnogi 'Diwrnod Natur' lleol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu menter i annog mwy o ddiddordeb ym myd natur.
Roedd Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd yr awyr agored a'r amgylchedd, yn gwneud ei sylwadau ar ôl clywed am ail 'Ddiwrnod Natur' a gynhaliwyd yn nhŷ hanesyddol a gerddi Nantclwyd y Dre yn Rhuthun.
Meddai:
Rydw i bob amser yn hapus i gefnogi mentrau sy'n annog pob oedran i gymryd rhan a dysgu mwy am natur lleol, yn enwedig yn fy rhanbarth i yma yn y Gogledd.
Denodd y diwrnod dros 300 o ymwelwyr, sy'n dorf wych ac mae'n dangos cymaint o frwdfrydedd sydd am y pwnc hwn.
Rwy'n credu bod ymddiddori yn yr hyn sydd o'n cwmpas yn hanfodol i'n dyfodol ni i gyd ac mae digwyddiadau o’r fath mewn lleoliad mor hanesyddol a diddorol yn ffordd wych o gyfleu'r neges.
Trefnwyd y 'Diwrnod Natur' gan Bionet, Partneriaeth Natur Leol Gogledd Ddwyrain Cymru, sy'n cwmpasu siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Maen nhw’n bartneriaeth o sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio i warchod, diogelu a gwella bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.
Nod y digwyddiad oedd helpu pobl i ddeall rolau rhai o'r sefydliadau cadwraeth sy'n gofalu am natur ledled Gogledd Ddwyrain Cymru.
Roedd pobl o bob oed yn gallu sgwrsio â chynrychiolwyr o Bionet, Prifysgol Caer, Planhigfa Goed Cynghorau Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Cysylltu Gylfinir Cymru, Natur dros Iechyd Cyngor Sir Ddinbych, Cyfeillion y Ddaear Rhuthun, North Wales Butterfly Conservation, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Tir Gwyllt.
Cynhaliwyd gweithgareddau hwyliog i'r teulu drwy’r dydd gan gynnwys gweithgaredd 'gwnewch eich gylfinir eich hun', potio eich blodau gwyllt eich hun, paentio wyneb, sesiynau adrodd straeon byw, a gweithdai plethu helyg.
Meddai Clare Owen, Swyddog Prosiect BIONET:
Aeth y diwrnod yn dda iawn, roedd hi’n braf ac roedd hi’n wych gweld pawb yn rhoi cynnig ar y gweithgareddau a gynhaliwyd a hefyd yn cymryd amser i stopio a dysgu am y gwaith cadwraeth pwysig sy'n digwydd ar draws rhanbarth Bionet. Ein nod oedd cysylltu pobl â natur ac yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd fe wnaethom ni’n bendant gyflawni hynny. Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran ac i bawb a ddaeth.
Meddai Kate Thomson, rheolwr Tŷ Hanesyddol a Gerddi Nantclwyd y Dre:
Roedd hi’n wych croesawu cymaint o bobl, o bob oed, oedd â gwir ddiddordeb yn y sefydliadau cadwraeth a sut maen nhw’n helpu i warchod ein byd naturiol. Diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i wneud digwyddiad Nantclwyd y Dre yn un mor llwyddiannus.