Sam Rowlands MS for North Wales is urging residents to have their say on the future of their island.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and Shadow Minister for Local Government is backing an ‘Our Future’ consultation by Anglesey County Council.
He said:
I welcome the chance for people working and living on the island to have their say on what they want to see in the future.
The consultation, which closes on November 14, will give people the opportunity to share their views on how they feel the council should develop long term aims and objectives.
Anglesey has so much to look forward to. Not only is it home to the working port of Holyhead which hopefully will become a free port in the future bringing more jobs and increased prosperity but it is an extremely popular North Wales holiday hotspot and attracts thousands of visitors every year.
It is important that people take part in this survey as the data collected will shape the future of this island.
The eight-week ‘Our Future’ consultation will give Anglesey residents, businesses and stakeholders a further opportunity to have their say.
This follows up the ‘Anglesey Priorities: Your Views’ engagement exercise, which was undertaken earlier in the year and gave individuals and businesses the opportunity to express their priorities for Anglesey.
The proposed new draft strategic priorities outlined in the Council Plan (2023 – 2028) have been developed as a result of our earlier engagement to support the council’s Wellbeing objectives.
These have been set out against a back-drop of the cost-of-living crisis and the significant financial challenges and uncertainties that many residents, families, communities, businesses and organisations are now experiencing. The new plan will focus on delivering a healthy, thriving, and prosperous Anglesey.
The consultation asks for views on the proposed priorities in terms of council service delivery; how they should be funded and how overall quality of life on Anglesey could be improved.
The consultation closes on Monday, November 14 2022 To complete the survey online go to: www.anglesey.gov.wales/ourfuture
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgynghoriad sylweddol ar gynlluniau’r dyfodol i Ynys Môn
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn annog trigolion i ddweud eu dweud ar ddyfodol eu hynys.
Mae Mr Rowlands o’r Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol yn cefnogi ymgynghoriad 'Ein Dyfodol' gan Gyngor Ynys Môn.
Dywedodd:
Rydw i'n croesawu'r cyfle i bobl sy'n gweithio ac yn byw ar yr ynys i ddweud eu dweud am yr hyn maen nhw am ei weld yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad, sy'n dod i ben ar 14 Tachwedd, yn rhoi cyfle i bobl rannu eu barn ar sut maen nhw'n teimlo y dylai'r cyngor ddatblygu nodau ac amcanion hirdymor.
Mae cymaint ar y gweill i Ynys Môn. Nid yn unig mae'r ynys yn gartref i borthladd prysur Caergybi a fydd, gobeithio, yn dod yn borthladd rhydd yn y dyfodol gan ddod â rhagor o swyddi a mwy o lewyrch, ond mae'n ardal wyliau boblogaidd dros ben ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae'n bwysig bod pobl yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn gan y bydd y data a gesglir yn llywio dyfodol yr ynys hon.
Bydd yr ymgynghoriad wyth wythnos 'Ein Dyfodol' yn rhoi cyfle pellach i drigolion, busnesau a rhanddeiliaid Ynys Môn ddweud eu dweud.
Mae hyn yn dilyn 'Blaenoriaethau Ynys Môn: eich barn', ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn gan roi cyfle i unigolion a busnesau fynegi eu blaenoriaethau ar gyfer Ynys Môn.
Mae'r blaenoriaethau strategol drafft newydd arfaethedig a amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor (2023 – 2028) wedi'u datblygu o ganlyniad i'n gwaith ymgysylltu cynharach i gefnogi amcanion Llesiant y cyngor.
Mae'r rhain wedi'u nodi yn erbyn cyd-destun yr argyfwng costau byw a'r heriau ariannol sylweddol a'r ansicrwydd y mae llawer o drigolion, teuluoedd, cymunedau, busnesau a sefydliadau bellach yn eu hwynebu. Bydd y cynllun newydd yn canolbwyntio ar gyflwyno Ynys Môn iach, ffyniannus a llewyrchus.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar y blaenoriaethau arfaethedig o ran darparu gwasanaethau'r cyngor; sut dylid eu hariannu a sut gellid gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol ar Ynys Môn.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Llun, 14 Tachwedd 2022. I gwblhau'r arolwg ar-lein ewch i: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Cymryd-rhan/Ymgynghoriadau/Ymgynghoriadau-cyfredol/Ymgynghoriad-ein-dyfodol.aspx