Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised the work of the Dogs Trust in his region.
He said:
It was great to meet Rob Simkins, Wales Public Affairs Officer for Dogs Trust and discuss what important work they carry out across North Wales.
I am a great admirers of the excellent work of the Trust which does a fantastic job in educating the public to be responsible dog owners as they work tirelessly to improve the welfare of all dogs.
As a dog owner myself I am always happy to back any charities who look after our four legged friends. It was also great to have a cuddle from puppy, Skylark.
Along with my Senedd colleagues, I will continue to work closely with the Trust and support them. I also want to see progress on all the issues we discussed to ensure a better future for all dogs.
The animal welfare charity, which has 21 rehoming centres across the UK and Ireland, cares for nearly 15,000 dogs each year and never puts a healthy dog down. In the last year Dogs Trust has rehomed more than 650 dogs in Wales alone.
Sam Rowlands AS yn cefnogi elusen lles cŵn genedlaethol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi canmol gwaith Ymddiriedolaeth Cŵn yn ei ranbarth.
Meddai:
Roedd hi'n braf iawn cael cyfarfod Rob Simkins, Swyddog Materion Cyhoeddus Cymru yr Ymddiriedolaeth Cŵn a thrafod y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud ledled y Gogledd.
Rwy'n edmygu’n fawr y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth o ran addysgu'r cyhoedd i fod yn berchnogion cŵn cyfrifol a gweithio'n ddiflino i wella lles pob ci.
Fel perchennog ci fy hun, dwi wastad yn hapus i gefnogi unrhyw elusen sy'n gofalu am ein ffrindiau blewog. Roedd hi hefyd yn hyfryd cael cwtsh gan gi bach, Skylark.
Law yn llaw â'm cydweithwyr yn y Senedd, byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda'r Ymddiriedolaeth ac yn eu cefnogi. Dwi hefyd am weld cynnydd ar yr holl faterion a drafodwyd gennym i sicrhau dyfodol gwell i bob ci.
Mae'r elusen lles anifeiliaid, sydd â 21 o ganolfannau ailgartrefu ledled y DU ac Iwerddon, yn gofalu am bron i 15,000 o gŵn bob blwyddyn a dydyn nhw byth yn rhoi ci iach i gysgu. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r Ymddiriedolaeth Cŵn wedi ailgartrefu mwy na 650 o gŵn yng Nghymru yn unig.