Sam Rowlands, MS for North Wales is backing a new service to enable people to pick up prescriptions 24 hours a day.
He said:
I am pleased to see Boots Pharmacy in Abergele, becoming the first in my region to embrace modern technology and introduce an automated prescription locker service.
I am absolutely delighted to see North Wales leading the way as it is not only the first for my region but also for Boots ‘ UK pharmacies.
It is a great idea for people to be able to collect their prescriptions at any time and not to affect other services. Yet again it shows how important local pharmacies are in the community and how they can be used to help the under pressure NHS.
Pharmacies had such an important part to play in administering the Covid -19 vaccine and it is great to see even more services being offered from local chemists.
The store in Abergele is the first of Boots’ UK pharmacies to introduce an external automated prescription locker service.
David Eaves, Boots Area Manager for North East and Mid Wales, said:
The Boots store team in Abergele are delighted to be able to provide an automated secure locker service, one of the first of its kind in North Wales. The service offers patients, who have signed up for the service, the convenience to pick up their prescriptions whenever they choose to – any time of the day or night, 7 days a week.
Patients can continue to get help and support from the Boots pharmacist and store team at Abergele during our usual opening hours.
Adam Mackridge Strategic Lead for Community Pharmacy at Betsi Cadwaladr University Health Board, said:
This is a great example of how community pharmacies are expanding the range of services available and the ease at which people can access them.
This sort of innovation not only provides more convenience for patients, but helps to free up staff in the pharmacy to help patients with their health problems.
All pharmacies in North Wales are currently able to provide free expert advice and guidance on treating common conditions and their symptoms, often without the need for an appointment, offering a quick and convenient alternative to seeking support from a GP surgery.
For further information on accessing the most appropriate health care services, please visit the Betsi Cadwaladr University Health Board website: https://bcuhb.nhs.wales/services/health-services1/where-do-i-go/
Sam Rowlands AS yn cefnogi gwasanaeth loceri awtomatig newydd ar gyfer casglu presgripsiynau yn Abergele
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn cefnogi gwasanaeth newydd sy’n galluogi pobl i gasglu presgripsiynau 24 awr y dydd.
Meddai:
Mae'n dda gweld mai Fferyllfa Boots yn Abergele yw'r fferyllfa gyntaf yn fy rhanbarth i fanteisio ar dechnoleg fodern a chyflwyno gwasanaeth loceri awtomatig ar gyfer casglu presgripsiynau.
Rwyf wrth fy modd yn gweld Gogledd Cymru yn arwain y ffordd gan mai dyma'r tro cyntaf i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno yn fy rhanbarth i a hefyd yn fferyllfeydd Boots ledled y DU.
Mae'n syniad gwych bod pobl yn gallu casglu eu presgripsiynau ar unrhyw adeg heb effeithio ar wasanaethau eraill. Unwaith eto, mae'n dangos pwysigrwydd fferyllfeydd lleol yn y gymuned a sut mae modd eu defnyddio i helpu'r GIG, sydd o dan bwysau mawr ar hyn o bryd.
Roedd cyfraniad fferyllfeydd at gyflwyno'r brechlyn Covid-19 yn bwysig iawn, ac mae'n dda gweld fferyllwyr lleol yn cynnig mwy o wasanaethau.
Y siop yn Abergele yw fferyllfa gyntaf Boots yn y DU i gyflwyno gwasanaeth loceri awtomatig allanol ar gyfer presgripsiynau.
Dywedodd David Eaves, Rheolwr Boots ar gyfer Ardal Gogledd-ddwyrain a Chanolbarth Cymru:
Mae tîm siop Boots yn Abergele yn falch o ddarparu gwasanaeth loceri diogel awtomatig, sy'n un o'r cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru. Mae cleifion sydd wedi cofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth yn gallu casglu eu presgripsiynau ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw – unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i gleifion fel arfer gan fferyllydd Boots a thîm y siop yn Abergele yn ystod ein horiau agor arferol.
Dywedodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol Fferylliaeth Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
Dyma enghraifft wych o sut mae fferyllfeydd cymunedol yn ehangu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael, a pha mor hawdd yw hi i bobl eu defnyddio.
Mae datblygiadau arloesol fel hyn yn darparu gwasanaethau mwy cyfleus i gleifion, ac yn helpu i ryddhau staff yn y fferyllfa i gynorthwyo cleifion gyda'u problemau iechyd.
Ar hyn o bryd, mae pob fferyllfa yng ngogledd Cymru yn gallu darparu cyngor ac arweiniad arbenigol am ddim ar drin cyflyrau cyffredin a'u symptomau, a hynny heb fod angen gwneud apwyntiad yn aml. Mae’n cynnig dewis amgen cyflym a chyfleus yn lle mynd at feddyg teulu.
I gael rhagor o wybodaeth am gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol, ewch i
wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: https://bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-lleol/