Sam Rowlands MS for North Wales is calling on local employers to sign up for a recruitment event in Flintshire.
The free event is being organised by Communities For Work Flintshire, Jobcentre Plus and Careers Wales in Holywell town centre on Thursday July 28.
Mr Rowlands said he was delighted to see this initiative being held in the town.
He said:
I am pleased to promote this event which helps both employers looking to recruit and those looking for work.
It is an excellent initiative and brings together local employers, service providers and job seekers to help those people who want to work in this area.
It also gives genuine job seekers the opportunity to meet with prospective employers and discuss their requirements in various fields including retail, construction and the healthcare and leisure industry.
I would urge local businesses to support this event and sign up to take part.
The event is part of a series of follow up pop up job and careers events across the towns of Flintshire after the success of the annual event which took place in April at Deeside Leisure Centre.
There will also be practical advice on hand including a CV checkpoint area and help to write application forms from Careers Wales.
For more information contact Paul Murphy at Jobcentre Plus on 07748 881647 [email protected] or Nia Parry/Janiene Davies at Communities For Work [email protected]/[email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad swyddi a gyrfaoedd newydd yn Nhreffynnon
Mae’r AS dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands, yn galw ar gyflogwyr lleol i gofrestru ar gyfer digwyddiad recriwtio yn Sir y Fflint.
Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim yn cael ei drefnu gan Cymunedau am Waith Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yng nghanol Treffynnon ddydd Iau 28 Gorffennaf.
Dywedodd Mr Rowlands ei fod yn falch iawn o weld y fenter hon yn cael ei chynnal yn y dref.
Dywedodd:
Rwy’n falch o hyrwyddo’r digwyddiad hwn sy’n helpu cyflogwyr sydd eisiau recriwtio a’r rhai sy’n chwilio am waith.
Mae’n fenter ragorol ac yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaethau a cheiswyr gwaith at ei gilydd i helpu’r bobl hynny sydd eisiau gweithio yn y maes hwn.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i geiswyr gwaith go iawn gyfarfod â darpar gyflogwyr a thrafod eu gofynion mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys manwerthu, adeiladu a’r diwydiannau gofal iechyd a hamdden.
Byddwn yn annog busnesau lleol i gefnogi’r digwyddiad hwn a chofrestru i gymryd rhan.
Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau gwaith a gyrfaoedd dilynol ar draws trefi Sir y Fflint ar ôl llwyddiant y digwyddiad blynyddol a gynhaliwyd ym mis Ebrill yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Bydd cyngor ymarferol ar gael hefyd, gan gynnwys ardal gwirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 [email protected] neu Nia Parry/Janiene Davies yn Cymunedau am Waith [email protected]/[email protected].