Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed the opening of a new prehabilitation unit to help cancer patients prepare for major cancer surgery.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, said:
I am delighted to see this new unit opening at the Wrexham Maelor Hospital as I am sure it will be of great benefit to many patients and help them prepare for their major operation.
It is a great initiative and one I would like to see replicated across all our major hospitals in North Wales.
It is vitally important that patients are ready and prepared for surgery and anything which also aids recovery and for them to spend less time in hospital is most welcome and should be supported.
The new unit will help ensure patients are fit enough to have their big operation which will also help reduce the risk of complications, improve their recovery and help patients go home earlier following the surgery.
A team of health care professionals including anaesthetists, physiotherapists, exercise physiologists, dietitians, occupational therapists and respiratory physiologists are all involved in designing and supervising a bespoke programme for each patient.
In 2019, Betsi Cadwaladr University Health Board held a pilot prehabilitation programme which followed 50 patients preparing for major cancer surgery in Wrexham.
The pilot found that these patients on average were able to be discharged home two days sooner and had half the number of complication rates following surgery compared to patients not attending prehabilitation. Patients were also more likely to maintain their new healthier lifestyle after surgery improving their long-term health.
Consultant Anaesthetist, Dr Neil Agnew, said:
The pilot was a success with patients of all ages really enjoying the sessions. Patients felt fully prepared mentally and physically. Due to the pandemic we were unable to continue with the supervised face to face sessions. Instead, we had to rely on telephone support which was not as effective. We were then able to restart the service on a small scale using the gym in Wrexham University as a temporary facility whilst developing our own bigger unit.
We’re delighted to have opened our new Prehabilitation Unit which will be just for our patients. Helping patients get as fit as they can before surgery will make them stronger and feel more prepared. They will be less likely to suffer complications resulting in a quicker recovery. Also, with the new extra space it’s now possible to help a wider range of patients prepare for surgery.
Patients listed for major surgery will be invited three times a week to the prehabilitation unit, based in Wrexham Industrial Estate. Their fitness programme starts a few weeks before their operation and includes a mix of regular supervised exercises, respiratory muscle training and improvements in diet and psychology sessions.
Sam Rowlands AS yn cefnogi campfa newydd fodern yn Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, wedi croesawu agor uned adsefydlu newydd i helpu cleifion canser i baratoi ar gyfer llawdriniaethau canser mawr.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid:
Rwy'n falch iawn o weld yr uned newydd hon yn agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam gan fy mod yn siŵr y bydd o fudd mawr i lawer o gleifion ac yn eu helpu i’w paratoi ar gyfer eu llawdriniaeth fawr.
Mae'n fenter wych ac yn un yr hoffwn ei gweld yn cael ei hefelychu ar draws ein holl brif ysbytai yn y Gogledd.
Mae'n hollbwysig bod cleifion yn barod ar gyfer llawdriniaeth, ac mae croeso mawr i unrhyw beth sydd hefyd yn helpu i wella ac i dreulio llai o amser yn yr ysbyty a dylid ei gefnogi.
Bydd yr uned newydd yn helpu i sicrhau bod cleifion yn ddigon heini i gael eu llawdriniaeth fawr a fydd hefyd yn helpu i leihau'r risg o gymhlethdodau, gwella eu hadferiad a helpu cleifion i fynd adref yn gynt ar ôl eu llawdriniaeth.
Mae tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gan gynnwys anesthetyddion, ffisiotherapyddion, ffisiolegwyr ymarfer corff, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol a ffisiolegwyr anadlol i gyd yn ymwneud â dylunio a goruchwylio rhaglen bwrpasol ar gyfer pob claf.
Yn 2019, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr raglen rhagsefydlu beilot a ddilynodd 50 o gleifion yn paratoi ar gyfer llawdriniaeth canser fawr yn Wrecsam.
Canfu'r rhaglen beilot fod modd i'r cleifion hyn gael eu rhyddhau adref ddeuddydd ynghynt ar gyfartaledd a bod ganddynt hanner nifer y cyfraddau cymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth o'i gymharu â chleifion nad oedden nhw’n cael eu rhoi ar raglen adsefydlu. Roedd cleifion hefyd yn fwy tebygol o gynnal eu ffordd o fyw iachach newydd ar ôl llawdriniaeth gan wella eu hiechyd hirdymor.
Dywedodd yr Anesthetydd Ymgynghorol, Dr Neil Agnew:
Roedd y peilot yn llwyddiant gyda chleifion o bob oed yn mwynhau'r sesiynau yn fawr. Roedd cleifion yn teimlo'n hollol barod yn feddyliol ac yn gorfforol. Yn sgil y pandemig nid oeddem ni’n gallu parhau â'r sesiynau wyneb yn wyneb dan oruchwyliaeth. Yn hytrach, roedd yn rhaid i ni ddibynnu ar gymorth ffôn nad oedd mor effeithiol. Yna roedden ni’n gallu ailgychwyn y gwasanaeth ar raddfa fach gan ddefnyddio'r gampfa ym Mhrifysgol Wrecsam fel cyfleuster dros dro wrth ddatblygu ein huned fwy.
Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi agor ein Huned Adsefydlu newydd ar gyfer ein cleifion ni’n unig. Bydd yn helpu cleifion i fod mor heini ag y gallant cyn llawdriniaeth ac yn eu gwneud yn gryfach ac yn teimlo'n fwy parod. Byddant yn llai tebygol o ddioddef cymhlethdodau gan arwain at adferiad cyflymach. Hefyd, gyda'r lle ychwanegol newydd, mae bellach yn bosibl helpu ystod ehangach o gleifion i baratoi ar gyfer llawdriniaeth.
Bydd cleifion sydd wedi'u rhestru ar gyfer llawdriniaethau mawr yn cael eu gwahodd deirgwaith yr wythnos i'r uned adsefydlu, sydd wedi'i lleoli yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Mae eu rhaglen ffitrwydd yn dechrau ychydig wythnosau cyn eu llawdriniaeth ac mae'n cynnwys cymysgedd o ymarferion rheolaidd dan oruchwyliaeth, hyfforddiant cyhyrau anadlol a sesiynau gwella deiet a seicoleg.