Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to turn up and support another Wrexham Night Market later this month.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross Party Group on Tourism is delighted to see the event being held in the city yet again.
He said:
Everybody knows I am a great fan of what is happening in Wrexham these days with tourists visiting from far and wide and I am very pleased to see financial support from the last Conservative Government’s UK Shared Prosperity Fund being used for this event.
The city has certainly helped to continue to put North Wales on the tourist map and events such as the Night Market is something for everyone to enjoy whether you are local or a visitor.
I am always delighted to sing the praises of Wrexham, not just as a city but a county as well as it is home to many different tourist attractions which ultimately helps the local economy.
The city is also bidding to become the UK City of Culture in 2029 and are certainly showing they can put on a good show.
The Wrexham Night Market is being held in the heart of the city centre on Friday August 30 from 3pm until late. Head down to Queens Square for an unforgettable evening of sights, sounds, and flavours and enjoy the vibrant atmosphere.
Among the attractions on offer there will be live music, mouthwatering street food, and refreshing drinks. The event is supported by UKSPF and created by Fair Event Management Ltd.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad poblogaidd yng nghanol y ddinas yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog pobl i alw heibio a chefnogi Marchnad Nos arall yn Wrecsam yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth yn falch iawn o weld y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y ddinas unwaith eto.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod fy mod i wrth fy modd gyda’r hyn sy'n digwydd yn Wrecsam y dyddiau hyn gyda thwristiaid yn ymweld o bell ac agos ac rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin ddiwethaf Llywodraeth Geidwadol y DU yn cael ei defnyddio ar gyfer y digwyddiad hwn.
Mae'r ddinas yn sicr wedi helpu i barhau i roi’r Gogledd ar y map twristiaeth ac mae digwyddiadau fel y Farchnad Nos yn rhywbeth i bawb ei fwynhau, waeth a ydych chi'n lleol neu'n ymwelydd.
Rydw i bob amser yn falch iawn o frolio Wrecsam, nid yn unig fel dinas ond fel sir, a hithau’n gartref i lawer o atyniadau twristaidd gwahanol sydd yn y pen draw yn helpu'r economi leol.
Mae'r ddinas hefyd yn gwneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029 ac yn sicr maen nhw'n dangos y gallan nhw gynnal sioe dda.
Mae Marchnad Nos Wrecsam yn cael ei chynnal yng nghanol y ddinas ddydd Gwener 30 Awst o 3pm tan yn hwyr. Ewch i Sgwâr y Frenhines am noson fythgofiadwy o fwyd da, cerddoriaeth dda a chwmni da – bydd yna arlwy wych i blesio pawb.
Bydd cerddoriaeth fyw, bwyd stryd blasus, a diodydd heb eu hail yn cyfrannu at y bwrlwm. Cefnogir y digwyddiad gan UKSPF ac fe’i crëwyd gan Fair Event Management Ltd.