Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on residents to help shape the future of dementia care in Wrexham.
Mr Rowlands, a keen supporter of Dementia UK, and who often raises awareness of the illness said:
As a keen supporter of any moves which ultimately helps and supports people suffering from dementia and their families, I welcome this survey which really will help make a difference.
Dementia is a terrible debilitating illness and it is good to see residents being encouraged to take part in Wrexham’s Community Listening Campaign. I would urge everyone to take part as you only have until the end of December to respond.
As an MS for North Wales I am always happy to support and help to highlight dementia and will continue to raise awareness in the Welsh Parliament.
Residents are being asked to have their say by completing the listening survey, which is live until December 31.
The survey only takes around 10 minutes to complete and asks for your opinion on a number of things relating to dementia care, including ‘what does good dementia care look like?’ and ‘what should be available to people living with dementia in this community?’.
The campaign is part of a wider Wales Listens project being supported by Improvement Cymru and Citizens UK.
Sam Rowlands AS yn cefnogi prosiect i helpu i wella gofal dementia yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar drigolion i helpu i lywio dyfodol gofal dementia yn Wrecsam.
Dywedodd Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o Dementia UK, ac sy'n codi ymwybyddiaeth o'r salwch yn gyson:
Fel cefnogwr brwd unrhyw gamau sy’n helpu a chefnogi pobl sy'n dioddef o ddementia a'u teuluoedd yn y pen draw, rwy'n croesawu'r arolwg hwn a fydd yn help gwirioneddol i wneud gwahaniaeth.
Mae dementia’n salwch gwanychol ofnadwy ac mae'n dda gweld trigolion yn cael eu hannog i gymryd rhan yn Ymgyrch Gwrando Cymunedol Wrecsam. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan gan mai dim ond tan ddiwedd mis Rhagfyr y gallwch chi ymateb.
Fel yr Aelod dros Ogledd Cymru, rydw i’n hapus i gefnogi a helpu bob amser i dynnu sylw at ddementia a bydda i'n parhau i godi ymwybyddiaeth yn y Senedd.
Gofynnir i drigolion ddweud eu dweud drwy gwblhau'r arolwg gwrando, sy'n fyw tan 31 Rhagfyr.
Gallwch chi gwblhau'r arolwg mewn tua 10 munud ac mae'n gofyn am eich barn ar nifer o bethau sy'n ymwneud â gofal dementia, gan gynnwys 'sut beth yw gofal dementia da?' a 'beth ddylai fod ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia yn y gymuned hon?’.
Mae'r ymgyrch yn rhan o brosiect ehangach Cymru’n Gwrando sy'n cael ei gefnogi gan Gwelliant Cymru a Citizens UK.