Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a scheme using sheep to boost wildflowers and wildlife on a Prestatyn hillside.
Commenting on the scheme, Sam said:
It really is good to see low intensity farming methods using traditional grazing stock being used to help promote biodiversity in Denbighshire.
I’ve been encouraged to see local communities and members of the public getting involved by planting trees and creating wildflower meadows and for the latest project they have introduced a flock of sheep to boost wildflowers and wildlife on Prestatyn hillside.
Local authorities have a responsibility to put a plan in place to enhance local biodiversity, so I’m pleased to hear that Denbighshire County Council have been working with the community on this latest initiative.
The introduction of the animals is part of the ‘Unique Opportunities - Landscape Solutions for North East Wales’ Project and Prestatyn Hillside SSSI was one of the project’s 40 potential nature conservation sites, designated for its internationally rare Limestone Grasslands.
The project aims to bring all sites into sustainable management regimes and reduce the need to mechanically manage sites using heavy plant and machinery, with a large focus on using traditional grazing livestock such as cattle, sheep and ponies.
Community consultation days were held at the Shed in Prestatyn to talk to members of the local community about the plans for the hillside and Botanical Surveys were also carried out in June 2021 to better understand what was currently on the site and act as a reference marker to monitor and direct future management.
Fencing and water were installed in January 2022 with all materials carried onto site by hand due to limited vehicle access. Kissing gates were also put up to ensure access was not limited along Offas Dyke Path.
Jack Parry, Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty North East Wales Project Officer, said:
The sheep coming are a hardy breed used to grazing high grounds and are able to survive outside in extreme weather conditions, as long as they are not disturbed they are happy grazing away. By using sheep to graze it allows us the manage the site more sustainably and reduce the need to use machinery on the site.
Our aim is to support the high number of wildflowers and wildlife on the site. The sheep will help us achieve this by removing the dense rank vegetation and opening up the sward in the autumn/winter which will allow smaller flowering plants to flourish come the summer providing a haven for butterflies and other wildlife.
The sheep will be on the site for a couple of months and only be grazing in one compartment at a time. During this time access will not be restricted but we will ask that dogs are kept under close control when passing through the compartment with sheep in.
Sam Rowlands AS yn cefnogi prosiect i fynd i'r afael â bioamrywiaeth ar fryniau yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi cynllun sy'n defnyddio defaid i hybu blodau gwyllt a bywyd gwyllt ar fryniau Prestatyn.
Wrth sôn am y cynllun, dywedodd Sam:
Mae'n wych gweld dulliau ffermio dwyster isel sy'n defnyddio stoc pori traddodiadol yn cael eu defnyddio i helpu i hyrwyddo bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.
Rydw i wedi cael fy annog i weld cymunedau lleol ac aelodau'r cyhoedd yn cymryd rhan trwy blannu coed a chreu dolydd blodau gwyllt ac ar gyfer y prosiect diweddaraf maen nhw wedi cyflwyno diadell o ddefaid i hybu blodau gwyllt a bywyd gwyllt ar fryniau Prestatyn.
Mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i roi cynllun ar waith i wella bioamrywiaeth leol, felly rwy'n falch o glywed bod Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned ar y fenter ddiweddaraf hon.
Mae cyflwyno'r anifeiliaid yn rhan o brosiect 'Unique Opportunities - Landscape Solutions for North East Wales' ac roedd SoDdGA Bryniau Prestatyn yn un o'r 40 safle cadwraeth natur posibl a ddynodwyd gan y prosiect ar gyfer ei Laswelltiroedd Calchfaen sy’n brin yn rhyngwladol.
Nod y prosiect yw dod â'r holl safleoedd o dan gyfundrefn rheoli cynaliadwy a lleihau'r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol gan ddefnyddio peiriannau ac offer trwm, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio da byw pori traddodiadol fel gwartheg, defaid a merlod.
Cynhaliwyd diwrnodau ymgynghori cymunedol yn y Sied ym Mhrestatyn i siarad ag aelodau'r gymuned leol am y cynlluniau ar gyfer y fryngaer a chynhaliwyd Arolygon Botanegol hefyd ym mis Mehefin 2021 i ddeall yn well beth yn union sydd ar y safle ar hyn o bryd, gyda hyn yn gweithredu fel cyfeirnod ar gyfer monitro a chyfeirio’r dull o reoli yn y dyfodol.
Gosodwyd ffensys a dŵr ym mis Ionawr 2022 gyda'r holl ddeunyddiau wedi'u cludo i'r safle â llaw oherwydd y mynediad cyfyngedig i gerbydau. Gosodwyd giatiau mochyn hefyd i sicrhau mynediad dirwystr ar hyd Llwybr Clawdd Offa.
Dywedodd Jack Parry, Swyddog Prosiect, Prosiect Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Gogledd Ddwyrain Cymru:
Mae'r defaid sy'n dod yn frîd gwydn a ddefnyddir i bori ar dir uchel ac sy’n gallu goroesi y tu allan mewn tywydd garw iawn. Maen nhw’n pori’n ddigon hapus cyn belled nad oes unrhyw darfu arnyn nhw. Trwy ddefnyddio defaid i bori’r ardal, mae modd rheoli'r safle yn fwy cynaliadwy a lleihau'r angen i ddefnyddio peiriannau ar y safle.
Ein nod yw cefnogi'r nifer sylweddol o flodau gwyllt a bywyd gwyllt ar y safle. Bydd y defaid yn ein helpu i gyflawni hyn trwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion llai ffynnu erbyn yr haf gan ddarparu hafan i loÿnnod byw a bywyd gwyllt arall.
Bydd y defaid ar y safle am fis neu ddau gan bori mewn un rhan yn unig ar y tro. Yn ystod y cyfnod hwn ni fydd mynediad yn cael ei gyfyngu, ond byddwn yn gofyn i gŵn gael eu cadw dan reolaeth agos wrth gerdded drwy’r llecyn lle mae’r defaid.