Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing the introduction of a new law to improve the use of British Sign Language in Wales.
Last month fellow Welsh Conservative member, Mark Isherwood MS launched a consultation on his proposal for a British Sign Language (BSL) (Wales) Bill, inviting people to give their views on the policy objectives of the proposed law.
Mr Rowlands, a keen supporter of the proposed Bill is now urging constituents to take part in the consultation.
He said:
I was delighted to meet up with representatives from the British Deaf Association Cymru recently at the Senedd who were in Cardiff to show their support for the introduction of this Bill.
I fully support the Bill which will help promote and facilitate the use of BSL, improve access to education, health and public services in BSL and, support the removal of barriers that exist for deaf people and their families.
I was also happy to support BDA Cymru who were also promoting their new BSL in our Hands campaign aiming to ensure deaf babies/toddlers and their families get the opportunity to access to British Sign Language as early as possible.
BDA has been supporting the Deaf Community in the UK since 1890 and in 2025, celebrate 135th years as an organisation. It continues to deliver its 10 Year Strategy with the overall aim of promoting and protecting British Sign Language to increase recognition, equality and inclusion for Deaf BSL signers across the UK.
Mr Martin Griffiths, BDA Cymru Manager thanked Sam for his support and said:
We hope 2025 sees the BSL (Wales) Bill move forward to become an Act as this is extremely vital important for current and future generations of Deaf people in Wales.
The proposed British Sign Language (BSL) (Wales) Bill seeks to make provision to promote and facilitate the use of BSL and its tactile forms in Wales; improve access to education, health and public services in BSL and, support the removal of barriers that exist for deaf people and their families in education, health, public services, support services and in the workplace.
The Bill would also work towards ensuring that people who use BSL are not treated less favourably than those who speak Welsh or English, and will ensure that deaf communities have a voice in the design and delivery of services to ensure they meet their needs.
To take part in the consultation which is scheduled to close on January 17 2025 use the online form which contains specific guidance on this process.
Complete the consultation form online.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Bil Iaith Arwyddion Prydain arfaethedig
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi cyflwyno deddf newydd i wella'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Fis diwethaf, lansiodd cyd-aelod Ceidwadwyr Cymru, Mark Isherwood AS, ymgynghoriad ar ei gynnig am Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), gan wahodd pobl i roi eu barn ar amcanion polisi'r gyfraith arfaethedig.
Mae Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd y Bil arfaethedig, bellach yn annog etholwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gyfarfod â chynrychiolwyr o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain Cymru yn ddiweddar yn y Senedd a oedd yng Nghaerdydd i ddangos eu cefnogaeth i gyflwyno'r Bil hwn.
Rwy'n cefnogi'r Bil a fydd yn helpu i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain, gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus mewn Iaith Arwyddion Prydain ac yn cefnogi cael gwared ar rwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd.
Roeddwn hefyd yn hapus i gefnogi BDA Cymru a oedd hefyd yn hyrwyddo eu hymgyrch BSL in our Hands newydd gyda'r nod o sicrhau bod babanod/plant byddar a'u teuluoedd yn cael y cyfle i gael mynediad at Iaith Arwyddion Prydain cyn gynted â phosib.
Mae BDA wedi bod yn cefnogi'r Gymuned Pobl Fyddar yn y DU ers 1890 ac yn 2025, dathlodd 135 mlynedd fel sefydliad. Mae'n parhau i gyflawni ei Strategaeth 10 Mlynedd gyda'r nod cyffredinol o hyrwyddo a diogelu Iaith Arwyddion Prydain i gynyddu cydnabyddiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain byddar ledled y DU.
Diolchodd Mr Martin Griffiths, Rheolwr BDA Cymru, i Sam am ei gefnogaeth a dywedodd:
Rydyn ni’n gobeithio y bydd Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2025 yn symud ymlaen i fod yn Ddeddf, gan fod hyn yn hanfodol bwysig i genedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol o bobl Fyddar yng Nghymru.
Mae'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig yn ceisio gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Iaith a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru; gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn yr Iaith a chefnogi cael gwared ar rwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.
Byddai'r Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg, a bydd yn sicrhau bod gan gymunedau pobl fyddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy’n cau ar 17 Ionawr 2025, defnyddiwch y ffurflen ar-lein sy'n cynnwys canllawiau penodol ar y broses hon.