Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is once again backing a new community based Repair Café support fund in North Wales.
Following the success of enfinium’s Repair Café initiative, last year the company, which runs the waste into power plant in Deeside handling black bin waste from Anglesey, Gwynedd, Conwy, Denbighshire and Flintshire, has reopened the fund for 2025.
Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging recycling said:
I have been fortunate enough to visit the North Wales site at Parc Adfer and sponsor an event in the Senedd to highlight the work which is being done to reduce waste across Wales and I am delighted to support the Repair Café initiative.
It is a fantastic idea and I am pleased to that this very worthwhile project is also being extended to other counties in North Wales.
These days it is all too easy to replace rather than repair items and I am really pleased to see enfinium offering funds to encourage Repair Cafés near their site in Flintshire.
It is really important that we continue to reduce recycling waste and Repair Cafés offer everyone the opportunity to do their bit to help this cause.
The Fund aims to support local Repair Cafés in their work to repair household items for free, diverting waste from landfill and saving people money.
With £20,000 available this year, applications for funding can be made from Repair Cafes operating within a 30 mile radius of one of enfinium’s facilities and for the first time this year, an expanded geographical area around enfinium’s Parc Adfer facility in North Wales can also apply for funding – including Repair Cafes across in the counties of Conwy, Denbighshire, Flintshire, Gwynedd, and the Isle of Anglesey in Wales.
A Repair Café is a community-based not-for-profit organisation, often with charitable status, that offers free repairs of common household items.
In its first year, enfinium’s fund supported the work of 15 Repair Cafés, awarding a combined total of £16,079 in funding. The grants supported a variety of needs, including covering operating costs, investing in new equipment, upskilling volunteers, and delivering initiatives aimed at encouraging youth participation, helping foster repair mindsets in the next generation.
Mike Maudsley, CEO of enfinium, said:
Repair Cafés are an important community resource that enable the repair rather than replacement of faulty household items. In doing so, they help reduce waste and make a vital contribution to the UK’s growing circular economy, whilst also helping people hold on to cherished items for longer, save money, and prevent waste from ending up in harmful landfill. We are delighted that we can support community initiatives that not only empower individuals to make more sustainable choices but also foster connections and skill-sharing that benefit us all.
Lesley Wood, Town Clerk, Flint Repair Café, which received funding through the first year of enfinium’s Fund, said:
enfinium’s funding helped strengthen our ability to meet the repair needs of our community. This support has enabled us to provide an improved service at a time when reducing waste is more critical than ever. It is fantastic that enfinium is expanding the reach of their Fund across more regions in North Wales. We would encourage other members of the Repair Café community to apply.
If you would like to learn more about the Repair Café Support Fund, or apply for funding, please visit the project website or email [email protected]. Applications close on May 31 2025.
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter Caffis Trwsio
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, unwaith eto'n cefnogi cronfa gymorth Caffi Trwsio cymunedol newydd yn y rhanbarth.
Yn dilyn llwyddiant menter Caffi Trwsio enfinium y llynedd, mae'r cwmni, sy'n rhedeg pwerdy ynni o wastraff yng Nglannau Dyfrdwy, sy'n trin gwastraff biniau du o Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, wedi ailagor y gronfa ar gyfer 2025.
Dywedodd Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd ac yn anogwr ailgylchu:
Bues i'n ddigon ffodus i ymweld â'r safle ym Mharc Adfer a noddi digwyddiad yn y Senedd i dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau gwastraff ledled Cymru, felly mae'n bleser gen i gefnogi menter y Caffi Trwsio.
Mae'n syniad gwych ac rwy'n falch bod y prosiect gwerth chweil hwn hefyd yn cael ei ymestyn i siroedd eraill yn y Gogledd.
Bellach, mae'n rhy hawdd inni brynu rhywbeth newydd yn hytrach na'i drwsio, felly mae'n braf gweld enfinium yn cynnig cyllid i annog Caffis Trwsio ger ei safle yn Sir y Fflint.
Mae'n hollbwysig ein bod ni'n parhau i leihau gwastraff ailgylchu ac mae Caffis Trwsio yn cynnig cyfle i bawb wneud eu rhan i helpu'r achos hwn.
Nod y Gronfa yw cefnogi Caffis Trwsio lleol yn eu gwaith i atgyweirio eitemau cartref yn rhad ac am ddim, gan ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi ac arbed arian i bobl.
Gyda £20,000 ar gael eleni, mae Caffis Trwsio sydd o fewn 30 milltir i un o gyfleusterau enfinium yn gallu gwneud cais, ac am y tro cyntaf eleni, gall ardal ddaearyddol estynedig o amgylch cyfleuster Parc Adfer enfinium yn y Gogledd wneud cais am nawdd hefyd - gan gynnwys Caffis Trwsio ledled siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, ac Ynys Môn.
Sefydliad nid-er-elw yn y gymuned yw Caffi Trwsio, yn aml gyda statws elusennol, sy'n cynnig trwsio eitemau cyffredin y cartref yn rhad ac am ddim.
Fe wnaeth cronfa enfinium gefnogi gwaith 15 caffi trwsio yn ei blwyddyn gyntaf, gan ddyfarnu £16,079 o gyllid i gyd. Roedd y grantiau'n cefnogi amrywiaeth o anghenion, gan gynnwys talu costau gweithredu, buddsoddi mewn offer newydd, uwchsgilio gwirfoddolwyr, a chyflwyno mentrau gyda'r nod o ennyn diddordeb pobl ifanc, gan helpu i feithrin meddylfryd trwsio ymhlith y genhedlaeth nesaf.
Dywedodd Mike Maudsley, Prif Swyddog Gweithredol enfinium:
Mae Caffis Trwsio yn adnodd cymunedol pwysig sy'n galluogi gwaith atgyweirio yn hytrach na disodli eitemau cartref diffygiol. Wrth wneud hynny, maen nhw'n helpu i leihau gwastraff ac yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi gylchol gynyddol y DU, gan helpu pobl i ddal gafael ar eitemau am fwy o amser, arbed arian, ac atal gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi niweidiol. Rydyn ni'n falch iawn o allu cefnogi mentrau cymunedol sydd nid yn unig yn annog unigolion i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy ond hefyd yn meithrin cysylltiadau a rhannu sgiliau sydd o fudd i ni i gyd.
Dywedodd Lesley Wood, Clerc y Dref, Caffi Trwsio'r Fflint, a dderbyniodd gyllid ym mlwyddyn gyntaf Cronfa enfinium:
Fe wnaeth cyllid enfinium helpu i gryfhau ein gallu i ddiwallu anghenion atgyweirio ein cymuned. Mae'r cymorth hwn wedi ein helpu i ddarparu gwasanaeth gwell ar adeg pan fo lleihau gwastraff yn bwysicach nag erioed. Mae'n wych bod enfinium yn ehangu cyrhaeddiad eu Cronfa ar draws mwy o ranbarthau'r Gogledd. Byddem yn annog aelodau eraill o'r gymuned Caffi Trwsio i wneud cais.
I ddysgu mwy am Gronfa Cymorth Caffi Trwsio, neu wneud cais am gyllid, ewch i wefan y prosiect neu e-bostiwch [email protected]. Bydd ceisiadau yn cau ar 31 Mai 2025.