Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, backs events to highlight courses available at Coleg Cambria.
Mr Rowlands, who recently visited the Yale campus said:
I was really impressed when I visited the college and had the opportunity to see some of the exciting things planned at the Yale campus.
I was delighted to see all the facilities and hear about future plans for this very impressive college including the building of a new Mental Health and Wellbeing Hub.
Coleg Cambria is a leading education provider with campuses across North Wales offering a wide range of courses and if you are considering further education it is well worth attending one of their opening events being held over the next two weeks.
Coleg Cambria was created following the merger of Deeside College and Yale College, Wrexham, in August 2013. It has six campuses across Wrexham, Flintshire and Denbighshire, and offers one of the widest curriculum portfolios of any college in Wales,
Since 2013 they have rapidly established themselves as a leading UK education provider and is one of the largest colleges in the UK.
Across their five sites, they offer a vast array of full-time and part-time courses including A Levels, GCSEs, BTECs, Welsh for Adults, and Higher Education. The college also works in partnership with over 1,000 employers locally and nationally to help you gain apprenticeship and traineeship opportunities.
Principal Sue Price said the college, which has more than 26,000 full- and part-time students, continues to go from strength to strength.
Our open events are always well attended and insightful for not only prospective learners but also their families.
It gives us the opportunity to demonstrate how many choices there are, the links we have with industry and the part Cambria plays in supporting students on the journey to their chosen career.
Mrs Price added: “We encourage people to book ahead and while at the college to visit as many areas as they can, to explore what’s on offer and get a flavour of the whole experience, from the modern, state-of-the-art facilities to the variety of qualifications on offer – we look forward to seeing you soon.”
For more information and to watch a video with top tips on how to get the best out of open events, visit the website: www.cambria.ac.uk/campaigns/openevents.
Alternatively, follow Coleg Cambria on social media, call 0300 30 30 007 or email [email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiadau arddangos mewn coleg yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn cefnogi digwyddiadau i dynnu sylw at gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.
Dywedodd Mr Rowlands ar ôl ymweld â champws Iâl yn ddiweddar:
Gadawodd y coleg argraff fawr arna i wrth weld rhai o’r pethau cyffrous sydd ar y gweill ar gampws Iâl.
Ro’n i’n falch iawn o’r cyfle i weld yr holl gyfleusterau a chlywed am gynlluniau’r coleg trawiadol hwn ar gyfer y dyfodol yn cynnwys adeiladu Hyb Iechyd Meddwl a Llesiant newydd.
Mae Coleg Cambria’n ddarparwr addysg blaenllaw gyda champysau ledled y Gogledd yn cynnig ystod eang o gyrsiau ac os ydych chi’n ystyried addysg bellach mae’n werth mynd i un o’u digwyddiadau agored a gynhelir dros y pythefnos nesaf.
Cafodd Coleg Cambria ei greu yn dilyn uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl, Wrecsam, ym mis Awst 2013. Mae ganddo chwe champws ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ac mae’n cynnig un o’r portffolios cwricwlwm ehangaf ymhlith colegau Cymru.
Ers 2013 mae’r coleg wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU ac mae’n un o’r colegau mwyaf yn y DU.
Ar draws y pum safle mae’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn amser a rhan-amser yn cynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â 1,000 a mwy o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu chi i gael prentisiaethau a hyfforddeiaethau.
Dywedodd y Pennaeth, Sue Price, fod y coleg, sydd â thros 26,000 o fyfyrwyr llawn amser a rhan-amser, yn mynd o nerth i nerth.
Mae yna lawer iawn yn dod i’n digwyddiadau agored i gyd ac maent yn gyfle i’n darpar ddysgwyr a’u teuluoedd gael cipolwg o’r coleg a’r hyn sydd ar gael.
Mae’n gyfle i ni ddangos cymaint o ddewisiadau sydd yma, y cysylltiadau sydd gennym â diwydiant a’r rhan mae Cambria’n ei chwarae yn cefnogi myfyrwyr ar eu taith i’r yrfa o’u dewis.
Ychwanegodd Mrs Price: “Rydyn ni’n annog pobl i archebu lle ymlaen llaw, ac i ymweld â chymaint o’r coleg ag y gallan nhw, i weld beth sydd ar gael a chael blas o’r profiad cyfan, o’r cyfleusterau modern o’r radd flaenaf sydd gennym i’r amrywiaeth o gymwysterau sy’n cael eu cynnig – edrychwn ymlaen at eich gweld chi’n fuan.”
Am ragor o wybodaeth ac i wylio fideo gyda chyngor ar sut i gael y gorau o ddigwyddiadau agored, ewch i’r wefan: https://www.cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/digwyddiadau-agored/?lang=cy.
Fel arall, dilynwch Coleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol, ffoniwch 0300 30 30 007 neu e-bostiwch [email protected].