Sam Rowlands MS for North Wales is backing tree planting initiatives in his region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government has praised Denbighshire County Council and Conwy County Borough Council for taking action to improve biodiversity and reduce their carbon footprint.
He said:
I am delighted to see the amount of tree planting which is being carried out in both counties and everyone involved should be congratulated for all their efforts.
Denbighshire council has planted almost 5,000 trees all over the county helped by staff, volunteers and members as part of the Woodland Creation Project.
Apart from helping to reduce the authority’s carbon emissions it is also great to see the public being involved in the scheme and in Ruthin schoolchildren also helped with the planting.
Work has also started on planting trees in the town of Llandudno, as part of Conwy County Borough Council’s Urban Tree Planting Programme. Later this month the programme will also extend to parts of Kinmel Bay, Towyn and Abergele.
I am particularly pleased to see urban spaces becoming greener in the town of Llandudno. It is vital this jewel in the crown for North Wales continues to evolve as a tourist destination.
In Denbighshire volunteers and council staff have planted 800 trees at Llanrhydd, 2,500 at Maes Gwilym, 1,500 at Cae Ddol and 150 trees at Maes Esgob. This included a number of school children who were able to plant the trees on their old school field in Ruthin, as well as enhance the Maes Gwilym woodland in Rhyl.
In Llandudno, as part of the first phase of the programme, the first trees were planted around Llwynon Road Estate on the Great Orme, St Andrew’s Avenue and Lloyd Street.
Sam Rowlands AS yn cefnogi rhaglenni plannu coed yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi mentrau plannu coed yn ei ranbarth.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi canmol Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am gymryd camau i wella bioamrywiaeth a lleihau eu hôl troed carbon.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o weld faint o waith plannu coed sy'n cael ei wneud yn y ddwy sir a dylid llongyfarch pawb am eu holl ymdrechion.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi plannu bron i 5,000 o goed ledled y sir gyda chymorth staff, gwirfoddolwyr ac aelodau fel rhan o'r Prosiect Creu Coetiroedd.
Ar wahân i helpu i leihau allyriadau carbon yr awdurdod, mae hefyd yn wych gweld y cyhoedd yn rhan o'r cynllun, gyda phlant ysgol hefyd yn helpu i blannu yn Rhuthun.
Mae gwaith wedi dechrau ar blannu coed yn nhref Llandudno hefyd, fel rhan o Raglen Plannu Coed Trefol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Bydd y rhaglen yn ymestyn i rannau o Fae Cinmel, Tywyn ac Abergele yn ddiweddarach yn y mis.
Rwy'n hynod falch o weld mannau trefol yn glasu fwyfwy yn Llandudno. Mae'n hanfodol bod y trysor twristaidd hwn yn y Gogledd yn parhau i esblygu fel cyrchfan ymwelwyr.
Yn Sir Ddinbych, mae gwirfoddolwyr a staff y cyngor wedi plannu 800 o goed yn Llanrhydd, 2,500 ym Maes Gwilym, 1,500 yng Nghae Ddol a 150 o goed ym Maes Esgob. Roedd hyn yn cynnwys nifer o blant ysgol a aeth ati i blannu coed ar hen gae’r ysgol yn Rhuthun, yn ogystal â gwella coetir Maes Gwilym yn y Rhyl.
Yn Llandudno, fel rhan o gam cyntaf y rhaglen, plannwyd y coed cyntaf o amgylch ystâd Ffordd Llwynon ar y Gogarth, St Andrew's Avenue a Stryd Lloyd.