Sam Rowlands Member of Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to support two county shows in August.
The two day Anglesey Show is being held on Tuesday August 13 and Wednesday August 14., with the
Denbigh and Flint Show the following day on Thursday August 15, with organisers promising plenty of things for the whole family.
Mr Rowlands, a keen supporter of local farmers and the agricultural industry, is now calling on members of the public to back the events.
He said:
I am delighted to promote these popular annual shows which are a very important part of the rural calendar and attract thousands of people.
Both are excellent places to experience the best of Wales as many of our Welsh farmers will be showcasing their products and showing their livestock.
There is quite simply something for all ages whether you just want to browse the various stalls or watch a display. It truly is an agricultural extravaganza and well worth a visit.
The Anglesey Show, takes place on the Showground, Gwalchmai, Holyhead and the Denbigh and Flint Show on the Green near Denbigh.
Both attract thousands of visitors every year with a wide range of livestock and equestrian competitions, including show jumping and sheep shearing.
There are many other attractions including live entertainment, stalls selling local produce and trade stands showcasing everything from farm machinery to country pursuits.
Sam Rowlands AS yn cefnogi sioeau amaethyddol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi dwy sioe sirol ym mis Awst.
Mae Sioe Môn yn para deuddydd ac yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 13 Awst a dydd Mercher 14 Awst, gyda Sioe Dinbych a’r Fflint y diwrnod canlynol ddydd Iau 15 Awst, gyda'r trefnwyr yn addo digon o bethau i'r teulu oll.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd i ffermwyr lleol a'r diwydiant amaethyddol, yn galw ar aelodau'r cyhoedd i gefnogi'r digwyddiadau.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o hyrwyddo'r sioeau blynyddol poblogaidd hyn sy'n rhan bwysig iawn o'r calendr gwledig ac yn denu miloedd o bobl.
Mae'n gyfle ardderchog i brofi'r gorau o Gymru gan y bydd llawer o'n ffermwyr yng Nghymru yn arddangos eu cynnyrch ac yn dangos eu da byw.
Mae yna rywbeth i bob oed os ydych chi am bori drwy'r stondinau amrywiol neu wylio arddangosfa. Maent yn wir yn strafagansa amaethyddol sy’n werth eu cefnogi.
Cynhelir Sioe Môn, ar faes y Sioe, Gwalchmai, Caergybi a Sioe Dinbych a'r Fflint ar y Lawnt ger Dinbych.
Mae'r ddau yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn gydag amrywiaeth eang o gystadlaethau da byw a marchogaeth, gan gynnwys neidio ceffylau a chneifio defaid.
Mae llawer o atyniadau eraill gan gynnwys adloniant byw, stondinau sy'n gwerthu cynnyrch lleol a stondinau masnach sy'n arddangos popeth o beiriannau fferm i weithgareddau gwledig.