Sam Rowlands MS for North Wales is backing a campaign to encourage people to make a stand against domestic violence.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I will be proud to wear a White Ribbon on Friday November 25 and fully support anyone helping to end violence towards women and children.
I am delighted to be able to support this campaign and it is good to see Denbighshire County Council getting involved in raising this awareness.
It is a sad fact that many women suffer some form of domestic violence and we need to do everything we can to prevent these abhorrent actions.”
It is also vitally important to get the message across to the public and if anyone knows someone who is suffering from domestic violence to make sure that they get the right help and advice which is readily available.
The White Ribbon Campaign focuses on targeting violence against women by men and boys and promoting respectful relationships.
It is led by men who are willing to take a stand against violence against women and girls and to be positive role models to other men in their community.
Denbighshire County Council and Denbighshire Leisure Limited are supporting the White Ribbon Day, the International Day for the Eradication of Violence against Women, which is aimed at raising awareness of male violence towards women, by lighting up its buildings in support of White Ribbon Day.
Rhyl Pavilion Theatre/1891, Rhyl Sky Tower and Pont y Ddraig will all be lit up white to show support.
If you, your child or anyone in your family is at immediate risk of harm you should contact the police urgently – call 999
If you’re the victim of domestic abuse, you can ring the Live Fear Free Helpline on 0808 8010 800 now or visit the website https://gov.wales/live-fear-free. Help is available 24/7.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i annog pobl i wneud safiad yn erbyn trais domestig.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Byddaf yn falch o wisgo Rhuban Gwyn ar ddydd Gwener 25 Tachwedd ac yn llwyr gefnogi unrhyw un sy'n helpu i roi diwedd ar drais tuag at fenywod a phlant.
Rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r ymgyrch hon ac mae'n dda gweld Cyngor Sir Ddinbych yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o hyn.
Mae'n ffaith drist bod nifer o fenywod yn dioddef rhyw fath o drais yn y cartref ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y gweithredoedd ffiaidd yma."
Mae hefyd yn hanfodol bwysig i ni gyfleu'r neges i'r cyhoedd ac os oes unrhyw un yn adnabod rhywun sy'n dioddef trais domestig, eu bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth a'r cyngor cywir sydd ar gael yn rhwydd.
Mae Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn canolbwyntio ar dargedu trais yn erbyn menywod gan ddynion a bechgyn a hyrwyddo perthnasoedd parchus.
Mae'n cael ei arwain gan ddynion sy'n barod i wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod a merched a bod yn fodelau rôl positif i ddynion eraill yn eu cymuned.
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Denbighshire Leisure Limited yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn, sef Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod, sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o drais gan ddynion tuag at fenywod, drwy oleuo ei adeiladau i gefnogi’r Diwrnod Rhuban Gwyn.
Bydd Theatr Pafiliwn y Rhyl/1891, Tŵr Awyr y Rhyl a Phont y Ddraig i gyd yn cael eu goleuo'n wyn i ddangos cefnogaeth.
Os ydych chi, eich plentyn neu unrhyw un yn eich teulu mewn perygl uniongyrchol o gael niwed, dylech gysylltu â'r heddlu ar frys – ffoniwch 999
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig, gallwch ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 nawr neu gallwch fynd i'r wefan https://llyw.cymru/byw-heb-ofn. Mae cymorth ar gael 24/7.