Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a call to tackle the variation in uptake of innovative medicines.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, joined fellow Senedd members at a drop in event to hear more about a report launched by the Association of the British Pharmaceutical Industry Cymru Wales and the Welsh NHS Confederation.
He said:
I was delighted to call in and discuss the report and hear all about the importance of improving the uptake for using new drugs.
Quite clearly there is more that can be done to encourage more development and tackle the variation of usage.
I am happy to support any moves which ultimately help to improve anyone’s health and wellbeing. I also feel it is also very important to make sure that access to new life improving medicine is available to everyone.
ABPI Cymru Wales and the Welsh NHS Confederation invited members and staff to discuss the launch of their report on tackling the true cost of variation in uptake of innovative medicines.
The report makes 13 recommendations, including strengthening the role of the NHS as a long-term partner in championing the development and rapid adoption of innovative medicines and improving engagement between the life sciences industry and their national and local colleagues.
ABPI Cymru Wales exists to make the UK the best place in the world to research, develop and use new medicines and vaccines. They represent companies of all sizes who invest in discovering the medicines of the future. The Welsh NHS Confederation is the national membership body representing the leaders of the organisations making up the NHS in Wales: the seven local health boards, three NHS trusts and two special health authorities. They are part of the NHS Confederation and host NHS Wales Employers.
Sam Rowlands AS yn cefnogi gwaith i wella'r defnydd o feddyginiaethau arloesol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi galwad i fynd i'r afael â'r anghysondeb yn nifer y bobl sy’n cymryd meddyginiaethau arloesol.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, â'i gyd-aelodau o'r Senedd i glywed mwy am adroddiad a lansiwyd gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru Wales a Chonffederasiwn GIG Cymru.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd cael galw i mewn a thrafod yr adroddiad a chlywed am bwysigrwydd cynyddu'r nifer sy'n cymryd cyffuriau newydd.
Mae’n gwbl amlwg y gellid gwneud mwy i annog rhagor o ddatblygiad a mynd i'r afael â'r amrywiaeth o ran defnydd.
Rwy'n hapus i gefnogi unrhyw gamau sydd yn y pen draw yn helpu i wella iechyd a lles rhywun. Rwy’n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn hefyd i wneud yn siŵr bod meddyginiaethau newydd sy’n gwella bywyd ar gael i bawb.
Gwahoddodd ABPI Cymru Wales a Chonffederasiwn GIG Cymru aelodau a staff i drafod lansio eu hadroddiad ar fynd i'r afael â gwir gost yr amrywiaeth yn y defnydd o feddyginiaethau arloesol.
Mae'r adroddiad yn gwneud 13 argymhelliad, gan gynnwys cryfhau rôl y GIG fel partner hirdymor wrth hyrwyddo datblygiad meddyginiaethau arloesol a’u mabwysiadu’n gyflym a gwella ymgysylltiad rhwng y diwydiant gwyddorau bywyd a'u cydweithwyr cenedlaethol a lleol.
Bwriad ABPI Cymru Wales yw sicrhau mai Prydain yw'r lle gorau yn y byd i ymchwilio, datblygu a defnyddio meddyginiaethau a brechlynnau newydd. Maen nhw'n cynrychioli cwmnïau o bob maint sy'n buddsoddi mewn darganfod meddyginiaethau'r dyfodol. Conffederasiwn GIG Cymru yw'r corff aelodaeth cenedlaethol sy'n cynrychioli arweinwyr y sefydliadau sy'n ffurfio'r GIG yng Nghymru: y saith bwrdd iechyd lleol, tair ymddiriedolaeth y GIG a dau awdurdod iechyd arbennig. Maen nhw'n rhan o gonffederasiwn y GIG ac yn cynnwys Cyflogwyr GIG Cymru.