Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing calls for businesses and schools to adopt a Litter Free Zone.
Mr Rowlands, said:
Encouraging everyone to get involved in keeping our areas clean and tidy is a wonderful idea and I fully support this initiative. Well done to pupils at Ysgol Llan-y-Pwll who have become the latest school in Wrexham to adopt a Litter Free Zone.
It is great to see Wrexham at the forefront of this scheme and local schools having the opportunity to take part in litter picking.
Apart from it being good for our environment it also helps children to learn more about how important it is to keep our places litter and waste free.
Wrexham County Borough Council are working with Keep Wales Tidy to deliver Caru Cymru, the biggest ever initiative to eradicate litter and waste (with all 22 local authorities in Wales taking part).
The vision for Caru Cymru, a Welsh phrase meaning ‘Love Wales’ is that it will become second nature for people to do the right thing, by taking litter home and cleaning up after their dog, recycling ‘on-the-go’, and also reusing/ repairing items.
There are several active litter picking hubs placed around Wrexham where you can borrow equipment for free, to support the campaign.
The litter picking kit you can borrow includes pickers, high visibility vests, green bags and hoops for holding open the bags.
Businesses and schools can ‘adopt’ an area local to them and help keep it clean through regular litter picks. Schools are given their own free litter picking kit when they sign up. The kits include: a pack of 5 or 10 litter pickers; high visibility vests; hoops for bags; green or red sacks for litter picks.
Wrexham Council’s Caru Cymru Project Lead, Emma Watson recently visited Ysgol y Pwll along with Keep Wales Tidy Project Officer Shane Hughes. A safety talk and litter pick took place with the pupils and teachers taking part, and two sacks of litter was collected from the immediate area with plans to extend to their local park for regular picks.
Emma said:
Wrexham is continuing to show its commitment to improving local spaces and adopting a Litter Free Zone is a fantastic way to get involved. It’s wonderful to see how the pupils in local schools engage with the litter picking and the passion they show. Signing up is easy and you will be helped every step of the way.
For more information go to https://www.wrexham.gov.uk/service/environmental-enforcement-services/wrexham-caru-cymru. Or if your school is ready to get involved, please register your interest by visiting the Keep Wales Tidy website.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Caru Cymru Cyngor Wrecsam
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi galwadau ar fusnesau ac ysgolion i fabwysiadu Ardal Di-sbwriel.
Meddai Mr Rowlands:
Mae annog pawb i gyfrannu at gadw ein hardaloedd yn lân a thaclus yn syniad gwych ac rwy'n cefnogi'r fenter hon yn llawn. Da iawn i ddisgyblion Ysgol Llan-y-pwll, sef yr ysgol ddiweddaraf yn Wrecsam i fabwysiadu Ardal Di-sbwriel.
Mae'n wych gweld Wrecsam ar flaen y gad gyda'r cynllun hwn ac ysgolion lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn casglu sbwriel.
Yn ogystal â bod yn dda i'n hamgylchedd mae hefyd yn helpu plant i ddysgu mwy am ba mor bwysig yw hi i gadw ein llefydd yn rhydd o sbwriel a gwastraff.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i gynnal Caru Cymru, y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff (gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru'n cymryd rhan).
Gweledigaeth Caru Cymru yw y bydd yn dod yn ail natur i bobl wneud y peth iawn, sef mynd â’u sbwriel adref gyda nhw a glanhau ar ôl eu ci, ailgylchu 'wrth fynd', a hefyd ailddefnyddio/ trwsio eitemau.
Mae sawl hyb casglu sbwriel wedi’u lleoli o amgylch Wrecsam lle gallwch chi fenthyg offer am ddim, i gefnogi'r ymgyrch.
Mae'r pecyn casglu sbwriel y gallwch ei fenthyg yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau gwyrdd a chylchynau ar gyfer dal y bagiau ar agor.
Gall busnesau ac ysgolion 'fabwysiadu' ardal sy'n lleol iddyn nhw a helpu i'w chadw'n lân trwy gasglu sbwriel yn rheolaidd. Mae ysgolion yn cael eu pecyn casglu sbwriel am ddim eu hunain pan fyddan nhw'n cofrestru. Mae'r pecynnau'n cynnwys: pecyn o 5 neu 10 codwr sbwriel; siacedi llachar; cylchynau ar gyfer bagiau; sachau gwyrdd neu goch i gasglu sbwriel.
Daeth Emma Watson, Arweinydd Prosiect Caru Cymru Cyngor Wrecsam, i Ysgol Llan-y-pwll yn ddiweddar ynghyd â Shane Hughes, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus. Cafwyd sgwrs diogelwch ac yna bu'r disgyblion a'r athrawon yn casglu sbwriel. Casglwyd dwy sach o sbwriel o'r ardal gyfagos ac mae cynlluniau i ymestyn yr ardal i’w parc lleol a chynnal digwyddiadau casglu rheolaidd.
Meddai Emma:
Mae Wrecsam yn parhau i ddangos ei hymrwymiad i wella mannau lleol ac mae mabwysiadu Ardal Di-sbwriel yn ffordd wych o gymryd rhan. Mae'n hyfryd gweld sut mae'r disgyblion mewn ysgolion lleol yn cymryd rhan yn yr ymgyrch casglu sbwriel a'r angerdd maen nhw'n ei ddangos. Mae cofrestru yn hawdd a byddwch yn cael cymorth bob cam o'r ffordd.
Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/service/gwasanaethau-gorfodi-amgylcheddol/caru-cymru-wrecsam. Neu os yw’ch ysgol yn barod i gymryd rhan, cofrestrwch eich diddordeb drwy ymweld â gwefan Cadwch Gymru'n Daclus.