Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a major fund raising event to help raise funds for a local charity
Mr Rowlands is urging his constituents in North Wales to support Wrexham Motorfest 2024 on Saturday July 27, with all proceeds going to Nightingale House Hospice.
He said:
This event really does sound like an action packed day for all the family to enjoy and what a great way of raising much needed funds for the local hospice.
Entry is free although donations are encouraged to support the services and care Nightingale House provides people and their families living with life-limiting conditions.
If you are interested in cars, bikes, trucks and tractors then you are in for a treat as there will definitely be something for everyone on show and it will be well worth a visit.
The event is being organised by Nightingale House Hospice and the Wrexham Council Events Team, 2024 and is scheduled for Saturday July 27 from 11am to 6pm at Penyllan Farm, Marchwiel.
The action-packed day will be filled with thrilling automotive displays, live entertainment, and family-friendly activities showcasing everything from timeless classics to super-charged motors in this gathering of automotive enthusiasts and fun entertainment for everyone.
This is a free event and you will be asked for a recommended donation of £2 per person on arrival, all proceeds go to support Nightingale House Hospice.
Elise Jackson, Events and Campaigns Manager at Nightingale House Hospice, said:
Get ready for an exciting blend of automotive showcases and family-friendly entertainment.
Admission is free, with the opportunity to contribute to a great cause, Nightingale House Hospice, upon entry.
Thanks to your incredible generosity last year, we raised an astounding £13,000, and with your continued support, we aim to surpass that milestone. Don’t miss out on this unforgettable event – mark your calendars and join us for a day of automotive excitement and community spirit!
Mark your diary for Saturday, July 27th, and take the whole family to Wrexham Motorfest for a day filled with fun, thrills, and all things vehicles, whilst supporting a local charity.
For more information about Wrexham Motorfest, please visit the Nightingale House Hospice website or contact [email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi Motorfest Wrecsam 2024
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi digwyddiad codi arian mawr i helpu i godi arian ar gyfer elusen leol
Mae Mr Rowlands yn annog ei etholwyr yn y Gogledd i gefnogi Motorfest Wrecsam 2024 ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf, gyda'r holl elw'n mynd i Hosbis Tŷ'r Eos.
Meddai:
Mae'r digwyddiad hwn wir yn addo bod yn ddiwrnod llawn gweithgareddau i'r teulu cyfan ei fwynhau. Pa ffordd well o godi arian mawr ei angen ar gyfer yr hosbis leol?
Mae mynediad am ddim ond caiff rhoddion eu hannog i gefnogi'r gwasanaethau y mae Tŷ'r Eos yn eu darparu ar gyfer y bobl a'u teuluoedd sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ceir, beiciau, tryciau a thractorau, yna byddwch wrth eich bodd gan y bydd rhywbeth i bawb yn cael ei arddangos a bydd yn sicr werth ymweliad.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Hosbis Tŷ'r Eos a Thîm Digwyddiadau Cyngor Wrecsam, 2024 ac mae wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 27 Gorffennaf rhwng 11am a 6pm yn Fferm Penyllan, Marchwiel.
Bydd y diwrnod llawn cyffro yn cynnwys arddangosfeydd modurol gwefreiddiol, adloniant byw a gweithgareddau addas i'r teulu yn arddangos popeth o glasuron diamser i foduron pwerus iawn yn y dathliad hwn o ddilynwyr ceir brwdfrydig ac adloniant hwyliog i bawb.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a gofynnir i chi am rodd a argymhellir o £2 y pen wrth gyrraedd a bydd yr holl elw'n mynd tuag at gefnogi Hosbis Tŷ'r Eos.
Meddai Elise Jackson, Rheolwr Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd yn Hosbis Tŷ'r Eos:
Byddwch yn barod am gyfuniad cyffrous o arddangosfeydd ceir ac adloniant sy'n addas i’r teulu.
Mae mynediad am ddim, gyda'r cyfle i gyfrannu at achos gwych, Hosbis Tŷ'r Eos, wrth fynd i mewn.
Diolch i'ch haelioni anhygoel chi y llynedd, codwyd y swm syfrdanol o £13,000, a gyda'ch cefnogaeth barhaus, ein nod yw rhagori ar y garreg filltir honno. Peidiwch â cholli'r cyfle i fynychu'r digwyddiad bythgofiadwy hwn – rhowch e yn eich calendrau ac ymunwch â ni am ddiwrnod o gyffro modurol ac ysbryd cymunedol!
Rhowch ddydd Sadwrn, 27 Gorffennaf yn eich dyddiadur a mynd â'r teulu cyfan i Motorfest Wrecsam am ddiwrnod llawn hwyl, gwefr a phopeth sy’n ymwneud â cherbydau, hyn oll wrth gefnogi elusen leol.
Am ragor o wybodaeth am Motorfest Wrecsam, ewch i wefan Hosbis Tŷ'r Eos neu cysylltwch â [email protected]