Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to sign a petition against the Welsh Labour Government’s plans to impose 20mph on restricted roads.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a harsh critic of the proposals said:
For the past 12 months I have been supporting campaigners in Buckley, who are totally against the implementation of such a scheme in their town. Despite public opinion Welsh Government decided to impose this across the whole of the country.
Like most people I am not against 20mph speed limit outside schools, hospitals and other areas where evidence shows it’s a benefit, but a blanket 20mph speed limit across urban roads in Wales is just not right.
New research reveals that cutting speed limits on urban roads to 20mph does not significantly improve safety and according to the government analysis, the new law will cost the Welsh economy £4.5bn to implement.
Instead of slowing Wales down, Labour should grip the wheel and get Wales moving again with a pro-growth, pro-business, pro-worker programme that works for those who need to drive.
I would urge everyone who feels strongly about this issue to sign the petition as I have done and let us try to see this scheme kicked into touch.
Petition available here change.org/p/stop-the-welsh-govt-imposing-blanket-20mph-speed-limits-across-the-whole-of-wales-by-2023
Sam Rowlands AS yn pwyso ar etholwyr yn y Gogledd i gefnogi’r galw i gael gwared ar derfyn cyflymder 20mya cenedlaethol cyffredinol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn pwyso ar bobl i arwyddo deiseb yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru i osod terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, sy’n feirniadol iawn o'r cynigion:
Dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi bod yn cefnogi ymgyrchwyr ym Mwcle, sy'n llwyr yn erbyn gweithredu cynllun o'r fath yn eu tref nhw. Er gwaethaf barn y cyhoedd, penderfynodd Llywodraeth Cymru orfodi hyn ledled y wlad.
Fel y rhan fwyaf o bobl dydw i ddim yn erbyn terfyn cyflymder o 20mya tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill lle mae tystiolaeth yn dangos ei fod o fudd, ond nid yw cyfyngiad cyflymder cyffredinol o 20mya ar holl ffyrdd trefol Cymru yn iawn.
Mae ymchwil newydd yn datgelu nad yw torri terfynau cyflymder ar ffyrdd trefol i 20mya yn gwella diogelwch yn sylweddol ac yn ôl dadansoddiad y llywodraeth, bydd y gyfraith newydd yn costio £4.5bn i economi Cymru i’w rhoi ar waith.
Yn hytrach nag arafu Cymru, dylai Llafur afael yn y llyw a chael Cymru'n symud eto gyda rhaglen o blaid twf, o blaid busnes, o blaid gweithwyr, sy'n gweithio i'r rhai sydd angen gyrru.
Byddwn yn annog pawb sy'n teimlo'n gryf am y mater hwn i arwyddo'r ddeiseb fel yr wyf wedi ei wneud a cheisio cael gwared ar y cynllun hwn.
Deiseb ar gael yma change.org/p/stop-the-welsh-govt-imposing-blanket-20mph-speed-limits-across-the-whole-of-wales-by-2023