Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on constituents to make sure livestock are protected when in the countryside.
Mr Rowlands, a dog owner, is urging everyone to keep their keep their dogs on a lead on open access land and follow the countryside code.
He said:
I am happy to add my voice to remind dog owners, who are walking their pets in the countryside, to make sure their animals are kept on a lead on open access land especially when near livestock.
The lambing season is upon us and It is heart-breaking and very sad to hear about sheep being attacked and suffering because a dog has been let loose by its owner.
As the daylight hours increase and we look forward to warmer weather many people will be keen to visit some of the scenic landscapes we have to offer in North Wales.
However, we really need to be aware of our surroundings when walking our pets and follow the countryside code.
Wales Rural and Wildlife Crime Coordinator, Rob Taylor said:
Attacks on livestock are completely preventable through responsible dog ownership. Sadly, attacks on pregnant ewes or newborn lambs at this time of year do still occur.
We ask that owners are aware of the risks, use a precautionary approach in controlling their dog and understand the route on which they take them to exercise.
Dog owners should familiarise themselves with Natural Resources Wales’ Countryside Code which includes: keeping dogs on a lead or in sight and owners should be confident they will return on command; dogs should not stray from the path or area where there is a right of access and on open access land, dogs must be on a lead between March 1 and July 31 , even if there are no livestock present. This is a legal requirement.
Sam Rowlands AS yn annog perchnogion cŵn i gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn yng nghefn gwlad
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i sicrhau bod da byw yn cael eu gwarchod yng nghefn gwlad.
Mae Mr Rowlands, perchennog ci, yn annog pawb i gadw eu cŵn ar dennyn ar dir mynediad agored a dilyn y cod cefn gwlad.
Dywedodd:
Rwy'n hapus i ychwanegu fy llais i atgoffa perchnogion cŵn, sy'n cerdded eu hanifeiliaid anwes yng nghefn gwlad, i sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu cadw ar dennyn ar dir mynediad agored yn enwedig ger da byw.
Mae'r tymor wyna ar fin dechrau ac mae'n dorcalonnus clywed am achosion o ymosod ar ddefaid a dioddefaint oherwydd bod ci wedi cael ei adael yn rhydd gan ei berchennog.
Wrth i’r dydd ymestyn a’r tywydd gynhesu, bydd llawer o bobl yn awyddus i ymweld â rhai o'r tirweddau hyfryd sydd gennym i'w cynnig yn y Gogledd.
Fodd bynnag, mae gwir angen i ni fod yn ymwybodol o'n hamgylchedd wrth gerdded ein hanifeiliaid anwes a dilyn y cod cefn gwlad.
Dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru:
Mae modd atal ymosodiadau ar dda byw yn llwyr drwy fod yn berchnogion cyfrifol ar gŵn . Yn anffodus, mae ymosodiadau ar ddefaid beichiog neu ŵyn newydd-anedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn dal i ddigwydd.
Gofynnwn i berchnogion fod yn ymwybodol o'r risgiau, gan ddefnyddio dull rhagofalus o reoli eu cŵn a deall y llwybrau maen nhw’n mynd â nhw am dro.
Dylai perchnogion cŵn ymgyfarwyddo â Chod Cefn Gwlad Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cynnwys: cadw cŵn ar dennyn neu o fewn golwg a dylai perchnogion fod yn hyderus y byddan nhw’n dychwelyd ar orchymyn; ni ddylai cŵn grwydro o'r llwybr neu'r ardal lle mae hawl mynediad, ac ar dir mynediad agored, rhaid i gŵn fod ar dennyn rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, hyd yn oed os nad oes da byw yn bresennol. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.