Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging his constituents to support small businesses and shop locally in the run up to Christmas.
Mr Rowlands, is backing a national initiative, to get more people to shop small on Saturday December 7.
He said:
I am always happy to support this national initiative which aims to highlight local businesses across the UK and Wales and ultimately encourages more people to shop locally.
For many years I have been a great supporter of Small Business Saturday which inspires more and more people to support local business and buy locally sourced food and other products from their community.
It really is a fantastic initiative which has continued to be highly successful and extremely important for our local economy.
I would urge all communities in North Wales to celebrate the day and support their own small businesses in the run up to Christmas and beyond.
Small Business Saturday UK is a grassroots, non-political, non-commercial campaign, which highlights small business success and encourages consumers to ‘shop local’ and support small businesses in their communities.
Now in its 12th year in the UK, the campaign has grown significantly year on year encouraging people to shop small.
The day itself takes place this year on Saturday December 7 but the initiative aims to have a lasting impact on small businesses.
On Small Business Saturday customers are urged to go out and support all types of small businesses, online, in offices and stores with many hosting events and offering discounts.
Sam Rowlands AS yn annog pawb i gefnogi Sadwrn y Busnesau Bach
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog ei etholwyr i gefnogi busnesau bach a siopa'n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi menter genedlaethol i gael mwy o bobl i gefnogi eu siopau bach lleol ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr.
Dywedodd:
Rydw i bob amser yn hapus i gefnogi'r fenter genedlaethol hon sy'n ceisio tynnu sylw at fusnesau lleol ledled y DU a Chymru, gan annog mwy o bobl i siopa'n lleol.
Ers blynyddoedd lawer, rydw i wedi bod yn gefnogwr brwd i Sadwrn y Busnesau Bach sy'n ysbrydoli mwy a mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a phrynu bwyd o ffynonellau lleol a chynnyrch eraill o'u cymuned.
Mae wir yn fenter wych ac mae’n parhau’n hynod lwyddiannus ac yn hynod bwysig i'n heconomi leol.
Byddwn yn annog pob cymuned yn y Gogledd i ddathlu'r diwrnod a chefnogi eu busnesau bach eu hunain yn y cyfnod cyn y Nadolig a thu hwnt.
Mae Sadwrn y Busnesau Bach yn ymgyrch ar lawr gwlad, anwleidyddol, anfasnachol, sy'n tynnu sylw at lwyddiant busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i 'siopa'n lleol' a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.
Bellach yn ei 12fed flwyddyn yn y DU, mae'r ymgyrch wedi tyfu'n sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn dal i annog pobl i gefnogi busnesau bach.
Cynhelir yr achlysur eleni ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr ond nod y fenter yw cael effaith barhaol ar fusnesau bach.
Ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i fynd allan i gefnogi pob math o fusnesau bach, busnesau ar-lein, mewn swyddfeydd ac mewn siopau gyda llawer yn cynnal digwyddiadau ac yn cynnig gostyngiadau.