Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on constituents to share their views at a special drop-in session in Bangor next month.
Betsi Cadwaladr University Health Board is holding a series of open conversations with the public across North Wales to find out what people think about the health board.
Mr Rowlands, a harsh critic of the North Wales Health Board’s performance which next week marks one year since it was placed back in special measures said:
Betsi has already held these conversations in Wrexham and Denbigh and I welcome that people in Bangor will now be able to have their say.
I am encouraged that Betsi is holding these conversations as I welcome any opportunity for the public’s views to be considered.
I do hope these sessions will go some way to help to improve the health service in North Wales as it is a sad fact that Betsi has spent longer in special measures than any other organisation in the history of the NHS.
The next open conversation will be held at Coed Mawr Community Centre, 1 Ffordd Coed Mawr, Bangor, LL57 4TB on Monday March 11 between 1pm-3pm.
Members of the public will be invited to meet and speak with board members and front-line staff about their work and health board plans for the future development of services in North Wales.
The health board wants the public to tell them what they are doing well, what could be better and what should the Health Board prioritise. Everyone is welcome and there is no need to book a place.
Sam Rowlands AS yn annog y cyhoedd i ddweud eu dweud am wasanaethau iechyd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i rannu eu barn mewn sesiwn galw heibio arbennig ym Mangor fis nesaf.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal cyfres o sgyrsiau agored gyda'r cyhoedd ledled y Gogledd i ddarganfod beth yw barn y bobl am y bwrdd iechyd.
Meddai Mr Rowlands, beirniad llym o berfformiad Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru sydd yr wythnos nesaf yn nodi blwyddyn ers iddo gael ei osod yn ôl dan fesurau arbennig:
Mae Betsi eisoes wedi cynnal y sgyrsiau yma yn Wrecsam a Dinbych ac rwy’n falch y bydd pobl ym Mangor nawr yn gallu dweud eu dweud.
Rwyf wedi fy nghalonogi bod Betsi yn cynnal y sgyrsiau hyn gan fy mod yn croesawu unrhyw gyfle i ystyried barn y bobl.
Rwy'n gobeithio y bydd y sesiynau hyn yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at helpu i wella'r gwasanaeth iechyd yn y Gogledd oherwydd mae’n dorcalonnus fod Betsi wedi treulio mwy o amser dan fesurau arbennig nag unrhyw sefydliad arall yn hanes y GIG.
Cynhelir y sgwrs agored nesaf yng Nghanolfan Gymunedol Coed Mawr, 1 Ffordd Coed Mawr, Bangor, LL57 4TB ddydd Llun 11 Mawrth rhwng 1pm a 3pm.
Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i gyfarfod a siarad ag aelodau'r bwrdd a staff rheng flaen am eu gwaith a chynlluniau’r bwrdd iechyd ar gyfer datblygu gwasanaethau yn y Gogledd yn y dyfodol.
Mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i glywed barn pobl ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn dda, beth allai fod yn well a beth ddylai'r Bwrdd Iechyd ei flaenoriaethu. Mae croeso i bawb a does dim angen cadw lle.