Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing an apprentice recruitment campaign by one of the area’s largest employers.
Airbus, an international aircraft manufacturer with a factory based in Broughton, is holding an Apprenticeship Careers Day on site this Saturday December 9 from 1.30-4.30pm.
Mr Rowlands, a keen supporter of apprenticeship schemes said:
This is a wonderful chance for those who are interested in a career within the aviation industry to find out more about the opportunities on offer.
The open day is aimed at school leavers and those who are keen to take on an apprenticeship and earn as they learn, something which I fully support.
Airbus, is an extremely successful company and one of the biggest employers in North Wales and employs more than 4,000 staff at the Broughton site.
Apart from the number of people working in the factory this also has a knock on effect for the local economy. It is also very good news to see the company continuing to invest in future generations.
Airbus’ factory produces the wings for all its aircraft including the A350 and is recognised all over the world as providing first class aircraft.
I would urge anyone interested in a career in the aviation industry to sign up and register for the event on Saturday.
Airbus is offering several different craft and technical apprenticeships in areas including aerostructures, aircraft systems and mechanical and electrical maintenance.
The undergraduate degree apprenticeships include opportunities in engineering and business.
For more details and to register for the event visit the website.
Sam Rowlands AS yn annog ei etholwyr i wneud cais am yrfa gydag Airbus ym Mrychdyn
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch recriwtio prentisiaid gan un o gyflogwyr mwyaf yr ardal.
Mae Airbus, y cwmni gwneud awyrennau rhyngwladol sydd â ffatri ym Mrychdyn, yn cynnal Diwrnod Gyrfaoedd Prentisiaethau ar y safle rhwng 1.30-4.30pm ar ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd i gynlluniau prentisiaeth:
Mae hwn yn gyfle gwych i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant awyrennau ddarganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael.
Mae’r diwrnod agored wedi’i anelu at ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol a’r rhai sy’n awyddus i ymgymryd â phrentisiaeth ac ennill cyflog wrth ddysgu, rhywbeth rwy’n hollol gefnogol ohono.
Mae Airbus yn gwmni hynod lwyddiannus ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn y gogledd, gyda dros 4,000 o staff yn gweithio ar safle Brychdyn.
Ar ben nifer y bobl sy’n gweithio yn y ffatri, mae hynny hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol. Mae hefyd yn newyddion da iawn gweld y cwmni’n parhau i fuddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol.
Mae ffatri Airbus yn cynhyrchu’r adenydd ar gyfer holl awyrennau’r cwmni, gan gynnwys yr A350, ac mae’n cael ei gydnabod ledled y byd fel un sy’n darparu awyrennau o’r radd flaenaf.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant awyrennau i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ddydd Sadwrn.
Mae Airbus yn cynnig nifer o brentisiaethau gwahanol i ddarpar grefftwyr a thechnegwyr mewn meysydd sy’n cynnwys cydrannau awyrennau, systemau awyrennau a chynnal a chadw mecanyddol a thrydanol.
Mae’r gradd-bentisiaethau yn cynnwys cyfleoedd ym meysydd peirianneg a busnes.
Am ragor o fanylion ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i’r wefan.