Sam Rowlands, MS for North Wales wants constituents to share their views on priorities for this sixth Senedd term.
Mr Rowlands, a member of the Local Government and Housing Committee and former Leader of Conwy County Borough Council, is keen for people to have their say.
He said:
It is vitally important for anyone, who has views on what they would like us to prioritise, to take part in this consultation.
We are particularly keen for people to let us know what they think should be our key priority areas for the next 12 months.
As we continue to recover from the impact of Covid it is only right and proper we ask the public for their views to help us plan for the future.
The Senedd’s Local Government and Housing Committee was set up on June 23 2021 with the remit “to examine legislation and hold the Welsh Government to account by scrutinising its expenditure, administration and policy matters, encompassing (but not restricted to) local government, communities, and housing”.
To take part in the consultation or for further details either write to the Local Government and Housing Committee, Welsh Parliament, Cardiff Bay, Cardiff. CF99 1SN, email: [email protected] or call 0300 200 6565.
A link to the consultation can be found here: https://business.senedd.wales/mgConsultationDisplay.aspx?ID=422. The consultation ends on Friday, 17th September.
Sam Rowlands AS yn annog pobl i leisio eu barn am flaenoriaethau'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn gofyn i etholwyr rannu eu safbwyntiau ar flaenoriaethau ar gyfer chweched tymor y Senedd.
Mae Mr Rowlands, aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a chyn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn awyddus i sicrhau bod pobl yn lleisio eu barn.
Meddai:
Os oes gan unrhyw un farn am ein blaenoriaethau posibl, mae'n hollbwysig eu bod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Rydym yn awyddus iawn i glywed barn pobl am ein meysydd blaenoriaeth allweddol posibl ar gyfer y 12 mis nesaf.
Wrth i ni barhau i adfer ar ôl Covid, mae'n briodol i ni ofyn i'r cyhoedd am eu barn er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Sefydlwyd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai'r Senedd ar 23 Mehefin 2021 ar sail cylch gwaith i "archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol, cymunedau a thai”.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu i gael rhagor o fanylion, ysgrifennwch i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd. CF99 1SN, e-bost: [email protected] neu ffoniwch 0300 200 6565.
Mae dolen i’r ymgynghoriad ar gael yma: https://busnes.senedd.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=422. Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 17 Medi.