Sam Rowlands MS for North Wales has been seeing how a life-saving emergency service operates in his region.
Mr Rowlands recently visited the Wales Air Ambulance Base at Caernarfon Airport to find out more about this vital service.
He said:
I was delighted to spend some time at the airbase and meet some of the people who work there and help to keep this emergency service running.
It was fascinating to hear about the many different operations they carry out and the way in which they help in emergencies The Caernarfon base is one of four in the whole of Wales and along with support from their other bases, the Welsh Air Ambulance is able to access anywhere in the country within 20 minutes, which is very impressive.
The charity air ambulance is a free life- saving helicopter emergency medical service which relies on charitable donations and the generosity of people across Wales.
Wales Air Ambulance was started 20 years ago and has since developed into a partnership between the charity, the Welsh NHS’ Emergency Medical Retrieval and Transfer Service, who provide highly trained medical personnel, and defence contractor Babcock, who provide the helicopters and the pilots.
Since then the operation has gone from strength to strength and is now a vital part of our emergency services.
They now also have road response vehicles to compliment the helicopter and are one of the best performing air ambulances in the UK.
Wales Air Ambulance normally respond to between 8-10 incidents out of 800 critical care calls, in a 12 hour day with North Wales accounting for 16% of the calls. Overall they flew 3,414 missions in 2020, 1,383 by air and 2,030 by road.
The service also provides support for training foreign countries, recently providing advice on air ambulance services to support the Japanese Government’s planning for future tsunamis.
Sam Rowlands AS yn ymweld â Chanolfan Ambiwlans Awyr Cymru ym Maes Awyr Caernarfon
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros ranbarth y Gogledd, wedi bod yn gweld sut mae gwasanaeth brys sy'n achub bywydau yn gweithredu yn ei ranbarth.
Cafodd Mr Rowlands gyfle yn ddiweddar i ymweld â Chanolfan Ambiwlans Awyr Cymru ym Maes Awyr Caernarfon i ddysgu mwy am y gwasanaeth hanfodol hwn.
Dywedodd:
Roedd hi'n braf cael treulio amser yn y ganolfan a chwrdd â rhai o'r bobl sy'n gweithio yno ac yn helpu i gadw'r gwasanaeth brys hwn i fynd.
Roedd hi’n ddiddorol iawn clywed am yr holl weithredoedd gwahanol a sut maen nhw'n helpu mewn argyfyngau. Mae canolfan Caernarfon yn un o bedair yng Nghymru gyfan sydd, gyda’i gilydd, yn helpu i sicrhau bod Ambiwlans Awyr Cymru yn gallu cyrraedd unrhyw ran o'r wlad mewn 20 munud, sy'n hollol anhygoel.
Mae'r ambiwlans awyr elusennol yn wasanaeth meddygol brys rhad ac am ddim sy’n dibynnu ar roddion elusennol a haelioni pobl o bob cwr o'r wlad.
Sefydlwyd Ambiwlans Awyr Cymru 20 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi datblygu’n bartneriaeth rhwng yr elusen, Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys GIG Cymru, sy'n darparu staff meddygol sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel, a'r contractwr amddiffyn Babcock, sy'n darparu'r hofrenyddion a'r peilotiaid.
Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n rhan hanfodol o'n gwasanaethau brys erbyn hyn.
Mae ganddyn nhw gerbydau ffordd i ategu'r hofrennydd erbyn hyn, ac mae’n un o'r ambiwlansys awyr sy'n perfformio orau yn y DU.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru fel arfer yn ymateb i rhwng 8-10 digwyddiad allan o 800 o alwadau gofal critigol, mewn diwrnod 12 awr. Daw 16% o'r galwadau o'r Gogledd. Fe wnaethon nhw ymateb i 3,414 o argyfyngau yn ystod 2020 - 1,383 drwy’r awyr a 2,030 ar y ffordd.
At hynny, mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth i hyfforddi gwledydd tramor hefyd – yn ddiweddar mae wedi bod yn helpu gwasanaeth awyr Japan i gynllunio ar gyfer tswnamïau’r dyfodol.