Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised the work of a Rhyl-based church which is working hard to help its local community.
Following a visit to the Good News in the Community Church in Rhyl, Sam said:
I was delighted to meet with Natasha and Betty to discuss the contribution the Church makes to the community in Rhyl.
It was great to discuss the variety of activities and services they help to provide throughout the week, including the warm hubs, food share, vet service and games afternoons.
The church has now been running for more than 50 years and it is a fantastic set-up and a wonderful way to support the community of Rhyl.
The Good News church on Marsh Road consists of a small group of Christians who are keen to support people in the community.
During his visit Sam discussed the different groups which meet at the centre including a warm welcome hub which is a free service held two days every week for everybody.
There is also a ‘food share’ session on a Wednesday and a games afternoon on a Thursday.
Sam Rowlands AS yn ymweld ag eglwys yn y Rhyl
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros ranbarth y gogledd, wedi canmol gwaith eglwys yn y Rhyl sy'n gweithio'n galed i helpu ei chymuned leol.
Ar ôl ymweld ag eglwys Good News in the Community Church yn y Rhyl, dywedodd Sam:
Roedd hi'n braf iawn cyfarfod Natasha a Betty i drafod cyfraniad yr Eglwys i gymuned y Rhyl.
Roedd yn wych trafod yr amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau maen nhw'n helpu i'w darparu drwy'r wythnos, gan gynnwys y canolfannau cynnes, rhannu bwyd, gwasanaeth milfeddygol a phrynhawniau gemau.
Mae'r eglwys ar waith ers 50 mlynedd erbyn hyn, ac mae'n drefniant arbennig ac yn ffordd wych o gefnogi cymuned y Rhyl.
Mae eglwys Good News Church ar Marsh Road yn cynnwys criw bach o Gristnogion sy'n awyddus i helpu pobl yn y gymuned.
Yn ystod ei ymweliad bu Sam yn trafod y grwpiau gwahanol sy'n cyfarfod yn y ganolfan gan gynnwys hyb croeso cynnes, gwasanaeth rhad ac am ddim sydd ar gael i bawb ddeuddydd yr wythnos.
Hefyd, ceir sesiwn 'rhannu bwyd' ar ddydd Mercher a phrynhawn chwarae gemau ar ddydd Iau.