Sam Rowlands MS for North Wales is urging people to support the newly reopened museum in the centre of Llandudno.
Mr Rowlands was commenting during the official reopening of the site in Gloddaeth Street.
He said:
The Llandudno Museum has undergone a significant refurbishment and I was delighted to be given the opportunity to have a look round.
It is full of history and tells the fascinating story of Llandudno from prehistoric times through to the present day. This includes a little known fact that the town hosted the 1865 and 1866 Olympic Festivals, forerunners of the modern day Olympics.
There is something there for everyone and it even has an exhibition displaying work by local schools which reflects upon the COVID-19 lockdown.
I am delighted to see Llandudno Museum open again as it provides another excellent indoor tourist attraction for the area where we already have the Home Front Experience, Penderyn Whiskey’s distillery and the Boathouse Climbing Centre.
I would like to thank everyone involved in making the refurbishment happen, including the museums trustees and volunteers and urge people to make sure they support the venture.
The refurbishment has been supported by Mostyn Estates, the Heritage Lottery Fund, the Garfield Weston Foundation, the Welsh Government, Conwy County Borough Council, Llandudno Town Council and RWE who run the Gwynt y Mor offshore windfarm.
The museum also includes a new garden space at the rear of the building, maintained by volunteers from local rehabilitation organisation CAIS.
Sam Rowlands AS yn ymweld ag Amgueddfa Llandudno sydd newydd ailagor yn dilyn gwaith adnewyddu
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn annog pobl i gefnogi’r amgueddfa sydd newydd ailagor yng nghanol Llandudno.
Roedd Mr Rowlands yn siarad ar achlysur ailagor y safle yn swyddogol ar Stryd Gloddaeth.
Meddai:
Mae gwaith adnewyddu sylweddol wedi’i wneud yn Amgueddfa Llandudno ac roeddwn wrth fy modd yn cael cyfle i weld yr adeilad.
Mae’n llawn hanes ac yn adrodd stori hynod ddiddorol Llandudno o amseroedd cynhanes hyd at y cyfnod modern. Er enghraifft, ychydig iawn o bobl sy’n gwybod bod y dref wedi cynnal Gwyliau Olympaidd ym 1865 a 1866, sef digwyddiadau a oedd yn rhagflaenu’r Gemau Olympaidd modern.
Mae’r amgueddfa yn cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys arddangosfa sy’n dangos gwaith gan ysgolion lleol sy’n myfyrio ar gyfnod clo COVID-19.
Rwyf wrth fy modd bod Amgueddfa Llandudno wedi ailagor gan ei bod yn atyniad twristiaeth dan do rhagorol arall yn yr ardal sy’n ategu atyniadau fel Amgueddfa’r Home Front Experience, Distyllfa Chwisgi Penderyn a Chanolfan Ddringo’r Boathouse.
Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn ymwneud â’r gwaith adnewyddu, gan gynnwys ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr yr amgueddfa. Rwy’n annog pawb i gefnogi’r fenter.
Mae’r gwaith adnewyddu wedi’i gefnogi gan Ystadau Mostyn, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad Garfield Weston, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Llandudno ac RWE sy’n gyfrifol am Gwynt y Môr, fferm wynt ar y môr.
Mae’r amgueddfa yn cynnwys gardd newydd yng nghefn yr adeilad sy’n cael ei chynnal gan wirfoddolwyr o’r sefydliad adsefydlu lleol, CAIS.