Sam Rowlands MS for North Wales has been seeing at first-hand how disadvantaged residents from his region get active and have adventures.
Mr Rowlands recently visited SEAS Sailability at the Conway Centre on Anglesey, who organise outdoor activities on the Menai Straits.
He said:
I was delighted to have the opportunity to see for myself how SEAS Sailability operates and very impressed with what they offer disadvantaged residents in North Wales.
It is really important that everyone has the chance to try different activities and I cannot praise this this charity enough for helping those with a disability enjoy being outdoors and learning new skills on the sea.
I was able to meet with people taking part in various activities, including canoeing and dinghy sailing and everyone was having fun.
The North Wales coast is a beautiful part of the world and the Menai Straits is a stunning location for seagoing activities. It was great to see at first-hand the exceptional work carried out by all the volunteers and watch everyone enjoying the whole experience.
SEAS Sailability supports disadvantaged residents from North Wales to get outdoors and enjoy activities and adventures on the Menai Strait in a safe and social environment.
The charity is committed to providing shared experiences and work with its partner organisation Conway Centres; Anglesey, which is part of Edsential CiC, who deliver the sailability events.
They also work closely with Royal Yachting Association Cymru and Partneriaeth Awyr Agored, which helps to train and qualify volunteers.
Among the many different activities on offer is sailing, powerboating, paddle boarding and kayaking.
Sam Rowlands AS yn ymweld â SEAS Sailability ar Ynys Môn
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru wedi bod yn gweld drosto’i hun sut mae trigolion difreintiedig o’i ranbarth yn egnïol ac yn mwynhau anturiaethau.
Yn ddiweddar, ymwelodd Mr Rowlands â SEAS Sailability yng Nghanolfan Conway, Ynys Môn, sy’n trefnu gweithgareddau awyr agored ar y Fenai.
Meddai:
Ro’n i’n falch o gael y cyfle i weld â’m llygaid fy hun sut mae SEAS Sailability yn gweithredu ac mae’r hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig i drigolion difreintiedig y gogledd yn wych.
Mae’n bwysig iawn bod pawb yn cael cyfle i roi cynnig ar wahanol weithgareddau ac ni allaf ganmol yr elusen hon ddigon am helpu’r rhai ag anabledd i fwynhau bod yn yr awyr agored a dysgu sgiliau newydd ar y môr.
Cefais gyfle i gyfarfod â phobl a oedd yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, yn cynnwys canŵio a hwylio mewn cychod bach ac roedd pawb yn mwynhau’n arw.
Mae arfordir y gogledd yn hardd iawn ac mae Afon Menai yn lleoliad trawiadol ar gyfer gweithgareddau morol. Roedd hi’n wych gweld y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gan y gwirfoddolwyr a gwylio pawb yn mwynhau’r profiad cyfan.
Mae SEAS Sailability yn cefnogi trigolion difreintiedig o’r gogledd i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau gweithgareddau ac anturiaethau ar y Fenai mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol.
Mae’r elusen wedi ymrwymo i ddarparu profiadau a rennir ac yn gweithio gyda’i sefydliad partner Canolfan Conway, Ynys Môn, sy’n rhan o Edsential CiC, sy’n darparu’r digwyddiadau gallu hwylio.
Maen nhw hefyd yn gweithio’n agos gyda Royal Yachting Association Cymru a’r Bartneriaeth Awyr Agored, sy’n helpu i hyfforddi a chymhwyso gwirfoddolwyr.
Ymysg y gweithgareddau niferus sy’n rhan o’r arlwy, mae hwylio, cychod modur, padlfyrddio a chaiacio.