Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has been seeing at first-hand how Occupational Therapists help neonatal services at Wrexham Maelor Hospital.
Mr Rowlands, a keen supporter of the work of Occupational Therapists across North Wales said:
I was delighted to have the opportunity to visit the Special Care Baby Unit at Wrexham Maelor Hospital and meet with Occupational Therapist staff.
It was great to be able to discuss neonatal services and the challenges OTs face across the health service.
I also had the chance to see the work being carried out in the specialist unit by healthcare professionals which was extremely impressive and informative.
We all know our NHS here in Wales is under tremendous pressure, yet our hard working staff continue to go above and beyond to help patients.
At Wrexham’s SCBU babies are cared for by a team of medical staff led by a Paediatric Consultant and a team of specially trained nursing staff including, OTs, health care support workers, neonatal outreach, speech and language therapist, physiotherapist and many other professionals.
Sam Rowlands AS yn ymweld â’r Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi bod yn gweld â’i lygaid ei hun sut mae Therapyddion Galwedigaethol yn helpu’r gwasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Meddai Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o waith Therapyddion Galwedigaethol ledled y Gogledd:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i ymweld â'r Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam a chyfarfod â’r staff y Therapi Galwedigaethol.
Roedd hi’n wych gallu trafod gwasanaethau newyddenedigol a'r heriau y mae Therapyddion Galwedigaethol yn eu hwynebu ar draws y gwasanaeth iechyd.
Cefais gyfle hefyd i weld y gwaith sy'n cael ei wneud yn yr uned arbenigol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a oedd yn hynod drawiadol ac addysgiadol.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ein GIG yma yng Nghymru o dan bwysau aruthrol, ac eto mae ein staff gweithgar yn parhau i fynd y tu hwnt i’r disgwyl i helpu cleifion.
Yn Uned Gofal Arbennig Babanod Wrecsam mae babanod yn derbyn gofal gan dîm o staff meddygol dan arweiniad Ymgynghorydd Pediatrig a thîm o staff nyrsio sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, gan gynnwys, Therapyddion Galwedigaethol, gweithwyr cymorth gofal iechyd, staff allgymorth newyddenedigol, therapyddion lleferydd ac iaith, ffisiotherapyddion a llawer o weithwyr proffesiynol eraill.