Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a group helping to promote tourism in North Wales.
Mr Rowlands, Chair of the Welsh Parliament’s Cross Party Group on Tourism recently met with members of the Clwydian Range Tourism Group at the popular Wernog Woods, near Ruthin.
He said:
I was delighted to once again meet up with members of this active association of small, rural tourism businesses in the Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding National Beauty, AONB.
I particularly enjoyed the venue, the idyllic woodland setting of Wernog Woods which offers traditional and contemporary craft courses for all the family.
I was very impressed with what I saw and delighted to hear all about the Clwydian Range Tourism Group which continues to promote the beauty and prosperity of the area.
We are so lucky as we are blessed in North Wales with so many different attractions for tourists, from beautiful beaches and coastline to mountains and of course, scenic countryside. Wernog Woods is a real gem, located in an Area of Outstanding Beauty right in the heart of the Clwydian Range in North East Wales and an excellent facility.
The Clwydian Range Tourism Group was founded 20 years ago by a passionate group of volunteers all with micro tourism businesses based in rural locations in the Clwydian Range area.
Members provide that point of support for those who have to operate alone - the group use each other as a sounding lock to fill the gap of isolation!
Together, they present as one voice in order to help steer decisions, be included in legislation making and to make their existence count.
Sam Rowlands AS yn ymweld â chanolfan grefftau coetir yn Wernog Wood
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi grŵp sy'n helpu i hyrwyddo twristiaeth yn y Gogledd.
Yn ddiweddar cyfarfu Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth ag aelodau Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd ar safle poblogaidd Wernog Wood, ger Rhuthun.
Meddai:
Roedd yn bleser unwaith eto cyfarfod ag aelodau'r gymdeithas weithgar hon o fusnesau twristiaeth bach gwledig yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, AHNE.
Fe wnes i fwynhau'r lleoliad yn arbennig, lleoliad coetir delfrydol Wernog Wood sy'n cynnig cyrsiau crefft traddodiadol a chyfoes i'r teulu cyfan.
Gwnaeth yr hyn a welais argraff fawr arnaf i ac roeddwn i wrth fy modd yn clywed am Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd sy'n parhau i hyrwyddo harddwch a ffyniant yr ardal.
Rydyn ni mor ffodus yn y Gogledd gyda chymaint o atyniadau gwahanol i dwristiaid, o draethau ac arfordir hardd i fynyddoedd ac wrth gwrs, cefn gwlad hyfryd. Mae Wernog Wood yn berl go iawn, wedi'i lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng nghanol Bryniau Clwyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae’n gyfleuster heb ei ail.
Sefydlwyd Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd ugain mlynedd yn ôl gan grŵp angerddol o wirfoddolwyr, pob un â busnes micro-dwristiaeth mewn lleoliad gwledig yn ardal Bryniau Clwyd.
Mae aelodau'n darparu'r gefnogaeth honno i'r rhai sy'n gorfod gweithredu ar eu pen eu hunain - mae'r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn osgoi bod yn unig!
Gyda'i gilydd, maen nhw fel un llais er mwyn helpu i lywio penderfyniadau, cael eu cynnwys wrth lunio deddfwriaeth a gwneud i'w bodolaeth gyfrif.