Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales will carry on campaigning against the new default 20mph default speed limit.
Last night, Mr Rowlands, a harsh critic of the measures which are due to be implemented on Sunday September 17, urged the Welsh Labour Government to reverse their ill-conceived plan during a Welsh Conservative debate.
Mr Rowlands said:
Welsh Conservatives forced a vote calling for Welsh Parliament to scrap the ridiculous 20mph speed limit after a public opinion clearly showed it was not wanted but once again our pleas fell on deaf ears.
Over recent months hundreds of people have reached out to express their frustration with Welsh Government’s plans to reduce the default urban speed limit across Wales from 30mph to 20mph. I am sure many people will agree 20mph speed limits outside schools, hospital and other roads where there is clear evidence that lower speed limits are backed by the local community but not as a blanket approach and on arterial roads.
Mark Drakeford told reporters, "This is a manifesto commitment of the Labour Party, and it was in our election manifesto". In fact, it's an open secret in the Welsh Parliament that Mark Drakeford and his Cardiff-Bay based Labour Party are obsessed with forcing through the new 20mph speed limit, so I was disappointed, but not surprised when Labour and Plaid Cymru MSs voted for it despite massive public opposition.
Yesterday's ITV poll showed 66% of Wales disagreed with the new speed limit, and when I surveyed residents in Buckley, where the new speed limit was trialled, 97% of people thought it should be ditched.
Rest assured I will be supporting my constituents and will continue to campaign for the 20mph speed limit to be reversed, and I'm happy to announce that my Conservative Party colleagues will be backing me as well.
You can find out more about my campaign against the new, default 20mph speed limit by clicking on the link below, and don't hesitate to get in touch if there's ever anything I can do to help.
www.samrowlands.org.uk/20mph-speed-limit
Sam Rowlands AS yn pleidleisio yn erbyn cynigion ar gyfer terfynau cyflymder 20mya cyffredinol ledled Cymru
Bydd Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn parhau i ymgyrchu yn erbyn y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol newydd.
Neithiwr, anogwyd Llywodraeth Lafur Cymru gan Mr Rowlands, beirniad llym o'r mesurau sydd i fod i gael eu rhoi ar waith o ddydd Sul 17 Medi, i wyrdroi eu cynllun annoeth yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig.
Meddai Mr Rowlands:
Gorfododd y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais yn galw ar y Senedd i gael gwared ar y terfyn cyflymder chwerthinllyd o 20mya ar ôl i farn gyhoeddus ddangos yn glir nad oedd ei eisiau, ond unwaith eto cawsom ein hanwybyddu.
Dros y misoedd diwethaf mae cannoedd o bobl wedi estyn allan i fynegi eu rhwystredigaeth gyda chynlluniau Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder trefol cyffredinol ledled Cymru o 30mya i 20mya. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn cytuno ar derfynau cyflymder 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai a ffyrdd eraill lle ceir tystiolaeth glir bod cyfyngiadau cyflymder is yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol ond nid fel dull cyffredinol ac ar ffyrdd prifwythiennol.
Dywedodd Mark Drakeford wrth ohebwyr, "Mae hwn yn ymrwymiad maniffesto i'r Blaid Lafur, ac roedd yn ein maniffesto etholiadol". Mewn gwirionedd, mae'n gyfrinach agored yn y Senedd bod gan Mark Drakeford a'i Blaid Lafur ym Mae Caerdydd ryw obsesiwn gyda gorfodi’r terfyn cyflymder newydd o 20mya, felly cefais fy siomi, ond nid fy synnu pan bleidleisiodd Aelodau o’r Senedd Llafur a Phlaid Cymru drosto er gwaethaf gwrthwynebiad enfawr gan y cyhoedd.
Dangosodd arolwg barn ITV ddoe fod 66% o Gymru yn anghytuno â'r terfyn cyflymder newydd, a phan arolygais drigolion ym Mwcle, lle'r oedd y terfyn cyflymder newydd wedi'i dreialu, roedd 97% o bobl yn meddwl y dylid rhoi’r gorau iddo.
Coeliwch chi fi, byddaf yn cefnogi fy etholwyr ac yn parhau i ymgyrchu dros wrthdroi'r terfyn cyflymder o 20mya, ac rwy'n falch o gyhoeddi y bydd fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig yn fy nghefnogi hefyd.
Gallwch ddarganfod mwy am fy ymgyrch yn erbyn y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol newydd trwy glicio ar y ddolen isod, ac mae croeso i chi gysylltu os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i helpu.