Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says the new disastrous rollout of 20mph is now going to hit residents who use buses to get around.
Mr Rowlands, a harsh critic of the Welsh Labour Government’s ludicrous policy was commenting after Arriva Buses Wales announced changes to its services in Wrexham and Flintshire because of the challenges of the 20mph speed limits.
He said:
Yet again we find that this ridiculous and quite frankly bonkers legislation is having a huge knock-on effect for the long suffering public.
Not only is it slowing everyone down but we now hear that a public transport company has reviewed its routes and changes are being made to some of their services because of the new law.
Recently Arriva Bus Wales said they would be looking into their routes as bus services were seriously struggling and have now announced changes.
You really couldn’t make it up. The whole roll out has been a complete and utter mess.
Both candidates for the soon to be vacant job of Wales’ First Minister have said they will hold a review into this crazy legislation and I really hope they keep their word and listen to the public. Although I do have my doubts as they even ignored a petition signed by over 460,000 people against its implementation.
I am not against 20mph outside schools or hospitals and where there is a clear benefit but it really is about time the whole idea of this speed limit on roads where it is not necessary was scrapped.
It has been a clear disaster and people have had enough. It is time Welsh Government made a u-turn.
Sam Rowlands AS yn rhybuddio bod terfyn cyflymder cyffredinol 20mya yn parhau i achosi anhrefn yn y Gogledd
Yn ôl Sam Rowlands, yr Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, mae'r cam newydd trychinebus o gyflwyno gwaharddiad 20mya yn mynd i daro trigolion sy'n defnyddio bysiau i deithio o le i le.
Dyma oedd sylw Mr Rowlands, beirniad llym o bolisi chwerthinllyd Llywodraeth Lafur Cymru, ar ôl i Fysiau Arriva Cymru gyhoeddi newidiadau i'w gwasanaethau yn Wrecsam a Sir y Fflint oherwydd heriau'r terfynau cyflymder 20mya.
Dywedodd:
Unwaith eto, fe welwn ni fod y ddeddfwriaeth ynfyd a hurt yma, yn cael effaith enfawr ar ein cyhoedd amyneddgar.
Mae’r drefn nid yn unig yn arafu pawb ond rydym yn clywed yn awr bod cwmni trafnidiaeth gyhoeddus wedi adolygu ei lwybrau a newid rhai o'i wasanaethau oherwydd y gyfraith newydd.
Yn ddiweddar dywedodd Bysiau Arriva Cymru y bydden nhw'n ailystyried eu llwybrau gan fod y gwasanaethau bysiau yn cael trafferthion difrifol ac maen nhw wedi cyhoeddi newidiadau yn awr.
Fyddech chi ddim yn breuddwydio hyn, hyd yn oed. Mae'r trefniadau i gyd wedi bod yn llanast llwyr.
Mae'r ddau ymgeisydd ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth wallgof hon ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddan nhw’n cadw at eu gair ac yn gwrando ar y cyhoedd. Ond mae gennyf fy amheuon gan eu bod wedi anwybyddu deiseb a lofnodwyd gan dros 460,000 o bobl yn erbyn gweithredu’r ddeddf hyd yn oed.
Dydw i ddim yn erbyn 20mya y tu allan i ysgolion neu ysbytai a lle mae budd clir ond mae'n hen bryd cael gwared ar yr holl syniad o'r terfyn cyflymder hwn ar ffyrdd lle nad oes mo’i angen.
Mae wedi bod yn drychineb amlwg ac mae pobl wedi cael digon. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol.