Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed news that booster jabs for Covid will be available from next month.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and member of the Welsh Parliament, was commenting after it was announced that Autumn booster invitations were being sent out to eligible adults in Wales.
He said:
I am delighted to see extra protection is now going to be offered to eligible adults and I would urge anyone invited to have the jab to make sure they accept.
Although we are still in the Summer months and many of us are spending much more time outside it is still vital we protect people, ourselves and those who are at risk. With Autumn and Winter fast approaching it is important that we continue to reduce Covid cases and help those who are most vulnerable to serious infection.
The booster will help those who have a higher risk of contracting Covid, improve their protection and will ultimately cut down on hospital admissions therefore easing pressure on our already stretched health services in North Wales.
Starting next month eligible adults including all over 50s, frontline health and social care workers and people aged 16-49 who are carers, will mostly be invited via letter to attend a vaccination centre, GP or pharmacy for their autumn booster vaccination.
In line with advice from the Joint Committee on Vaccination and Immunisation, JCVI, eligible adults aged 18+ will initially be offered the Moderna vaccine which protects from both the original COVID virus and the Omicron variant.
Those eligible aged under 18 will be offered the Pfizer vaccine. Both vaccines will be offered at least three months after a previous dose.
Sam Rowlands AS yn croesawu pigiadau atgyfnerthu ar gyfer Covid
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, wedi croesawu’r newyddion y bydd pigiadau atgyfnerthu ar gyfer Covid ar gael o fis nesaf.
Roedd Mr Rowlands, aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig ac o Senedd Cymru, yn gwneud sylwadau ar ôl y cyhoeddiad bod gwahoddiadau ar gyfer pigiadau atgyfnerthu’r Hydref yn cael eu hanfon at oedolion cymwys yng Nghymru.
Meddai:
Rwy’n falch iawn y bydd amddiffyniad ychwanegol yn cael ei gynnig i oedolion cymwys a byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael gwahoddiad am bigiad i’w dderbyn.
Er ein bod ni’n dal ym misoedd yr Haf a llawer ohonom yn treulio llawer mwy o amser yn yr awyr agored mae dal yn hanfodol i ddiogelu pobl, ein hunain a’r rhai sydd mewn perygl. Gyda’r Hydref a’r Gaeaf yn nesáu’n gyflym mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i leihau achosion Covid a helpu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed o haint difrifol.
Bydd y pigiad atgyfnerthu’n helpu’r rhai sydd mewn perygl uwch o ddal Covid, gwella eu hamddiffyniad ac yn y pen draw, bydd yn lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i ysbytai gan leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd, sydd eisoes o dan bwysau dybryd yn y Gogledd.
Gan ddechrau wythnos nesaf, bydd oedolion cymwys dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a phobl 16-49 oed sy’n ofalwyr, yn cael eu gwahodd yn bennaf drwy lythyr i fynychu canolfan frechu, meddygfa neu fferyllfa i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref.
Yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, y JCVI, bydd oedolion cymwys 18 oed a throsodd yn cael cynnig y brechlyn Moderna i ddechrau, a fydd yn eu hamddiffyn rhag y feirws COVID gwreiddiol a’r amrywiolyn Omicron.
Bydd y rhai cymwys o dan 18 oed yn cael cynnig y brechlyn Pfizer. Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig o leiaf dri mis ers y dos blaenorol.