Sam Rowlands MS for North Wales is calling on his constituents to back a major sporting event next month.
Mr Rowlands is urging people to support Stage Four of one of the world’s major cycling events, The Tour of Britain, as it passes through Conwy and Gwynedd.
He said:
I am delighted to see North Wales has been chosen once again as a venue for this prestigious race and particularly pleased that it will host the longest and one of the toughest stages cycling up to the summit of the Great Orme above Llandudno.
It is a wonderful opportunity for local people to see world class riders in action and yet again promote this wonderful part of the world.
Cycling continues to be a very popular and growing sport in Wales. The previous stages of the Tour of Britain, held in North Wales, have brought out the crowds to support the event and I am sure this will be the case on 8th September.
The Tour of Britain has been rescheduled to 2021 owing to the COVID-19 pandemic and the 17th edition of the UK’s most prestigious stage race runs from Sunday 5th-12th September. The race will begin in Cornwall, covering 1,320km (820m) before the finish in Aberdeen.
Stage four on Wednesday 8th September is the Queen stage of the 2021 race and will culminate with a finish atop the Great Orme in Llandudno. The 215-kilometre route will take the race to parts of Wales for the first time in modern Tour history, including Aberaeron, the start host venue, Aberystwyth, Borth and Barmouth.
A tough ending to the stage features Coed y Brenin Forest Park, Snowdonia National Park and an ascent of the Great Orme’s Marine Drive before tackling the 1.9km, 9.8% average climb to the iconic finish location.
The Tour of Britain last visited the Great Orme in 2014 when Mark Renshaw won a stage finishing in Llandudno, but the modern Tour of Britain has never climbed to the summit.
The race will go ahead subject to local conditions and in line with relevant national guidelines and UCI protocols. Organisers SweetSpot are working closely with the Welsh Government and all the local authorities along the route in Wales to ensure that the event can take place safely.
Sam Rowlands AS yn croesawu digwyddiad beicio i Ogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi digwyddiad chwaraeon mawr fis nesaf.
Mae Mr Rowlands yn annog pobl i gefnogi Cymal Pedwar o un o brif ddigwyddiadau beicio’r byd, The Tour of Britain, sy’n ymweld â siroedd Conwy a Gwynedd.
Meddai:
Rwyf wrth fy modd bod Gogledd Cymru wedi’i ddewis unwaith eto fel un o leoliadau’r ras fawreddog hon, ac mae’n dda gweld y bydd yr ardal hon yn cynnal y cymal hiraf, ac un o’r anoddaf, i gopa Pen y Gogarth uwchben tref Llandudno.
Mae’n gyfle ardderchog i bobl leol weld beicwyr gorau’r byd yn rasio, a bydd yr holl ddigwyddiad yn rhoi hwb arall i’r ardal hyfryd hon.
Mae beicio yn parhau i fod yn gamp boblogaidd iawn sy’n mynd o nerth i nerth yng Nghymru. Fe gafodd cymalau blaenorol o’r Tour of Britain a gynhaliwyd yn y Gogledd gefnogaeth frwd gan bobl leol, ac rwy’n siŵr bydd yr un peth yn digwydd ar 8 Medi.
Cafodd The Tour of Britain ei gohirio’r llynedd oherwydd y pandemig COVID-19, ac mae ras cymalau fwyaf mawreddog y DU yn cael ei chynnal am yr ail dro ar bymtheg rhwng 5 a 12 Medi. Bydd y ras yn cychwyn yng Nghernyw ac yn teithio dros 1,320km (820m) cyn gorffen yn Aberdeen.
Cymal pedwar ar ddydd Mercher 8 Medi yw cymal Brenhines ras 2021, a bydd yn gorffen ar gopa Pen y Gogarth yn Llandudno. Bydd y llwybr 215 cilomedr yn cynnwys ardaloedd o Gymru nad yw’r Daith wedi ymweld â nhw o’r blaen, gan gynnwys Aberaeron, lleoliad dechrau’r cymal, Aberystwyth, Borth ac Abermaw.
Bydd diwedd y cymal yn un heriol iawn i’r beicwyr wrth iddyn nhw deithio trwy Goed y Brenin ym Mharc Cenedlaethol Eryri, esgyn Marine Drive ger Pen y Gogarth cyn wynebu dringfa 1.9km, 9.8% ar gyfartaledd, hyd at y lleoliad eiconig lle mae’r cymal yn gorffen.
Fe ddaeth The Tour of Britain i Ben y Gogarth yn ôl yn 2014 pan enillodd Mark Renshaw gymal a ddaeth i ben yn Llandudno, ond nid yw’r Tour of Britain modern erioed wedi esgyn i’r copa.
Bydd y ras yn cael ei chynnal yn amodol ar amodau lleol ac yn unol â’r canllawiau cenedlaethol perthnasol a phrotocolau UCI. Mae’r trefnwyr SweetSpot yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phob un o’r awdurdodau lleol ar hyd y llwybr yng Nghymru i sicrhau bod modd cynnal y digwyddiad yn ddiogel.