Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament and Shadow Minister for Local Government is backing an event to mark Men’s Health Awareness Month.
He said:
I am delighted to hear that a virtual event is being held next week by the NHS to offer individuals and employers the opportunity to gain a better understanding of how to look after mental health at work for men.
Earlier this year I spoke out about mental health during Mens’s Health Week 2022 as it is a subject which I feel very strongly about. I think it is important to raise awareness of the issues facing men and get them to do something about it.
Some statistics regarding men's health are quite alarming. As we sadly know, three out of four suicides are committed by men, 12.5% of men suffer from mental health disorders, and men are nearly three times more likely than women to become alcohol dependent
It's clear that many men find it difficult to open up and talk about their health. We heard earlier today some of the positive work that organisations like Men's Sheds—I'm a trustee of the Abergele Men's Shed—can carry out and we must encourage those to exist so that more men can feel open and confident to talk about the challenges they face.
One of North Wales’ leading psychiatrists, Dr Alberto Salmoiraghi, Consultant Psychiatrist and Medical Director at Betsi Cadwaladr University Health Board is chairing a ‘Bite Sized Health and Wellbeing Session’ in an effort to make men’s mental health everyone’s business.
The virtual event, held to mark Men's Health Awareness Month, is open to individuals and employers who want to gain a better understanding of how to support men to look after their mental health at work.
It will feature a Question & Answer session with an expert panel made up of NHS professionals and representatives from businesses, mental health charities and other third sector organisations. Panellists will also share their own personal experiences of what has helped them to look after their mental health and wellbeing.
“Men’s mental health is everyone’s business and we know that employers have a key role to play in supporting their male employees to stay mentally healthy whilst in work,” explained Dr Salmoiraghi. “We hope that this virtual session will help people gain a greater understanding of coping strategies and the range of support that is available to anybody that is struggling.
The virtual event on November 24, between 12.30pm and 2pm. Places can be booked via Eventbrite or by emailing Sandra Anderson from BCUHB’s Public Engagement Team at [email protected]. More information can be found on our website.
Sam Rowlands AS yn croesawu digwyddiad i dynnu sylw at iechyd meddwl dynion yn y gweithle
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol yn cefnogi digwyddiad i nodi Mis Ymwybyddiaeth Iechyd Dynion.
Dywedodd:
Rydw i'n falch iawn o glywed bod digwyddiad rhithwir yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf gan y GIG i gynnig cyfle i unigolion a chyflogwyr gael gwell dealltwriaeth o sut i ofalu am iechyd meddwl dynion yn y gwaith.
Yn gynharach eleni fe wnes i siarad am iechyd meddwl yn ystod Wythnos Iechyd Dynion 2022 gan ei fod yn bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu dynion a'u cael i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Mae rhai ystadegau ynglŷn ag iechyd dynion yn eithaf brawychus. Fel y gwyddom yn anffodus, mae tri o bob pedwar hunanladdiad yn cael eu cyflawni gan ddynion, mae 12.5% o ddynion yn dioddef o anhwylderau iechyd meddwl, ac mae dynion bron i dair gwaith yn fwy tebygol na menywod o fod yn ddibynnol ar alcohol.
Mae'n amlwg bod llawer o ddynion yn ei chael hi'n anodd bwrw eu bol a siarad am eu hiechyd. Clywsom yn gynharach heddiw am beth o'r gwaith cadarnhaol y gall sefydliadau fel Siediau Dynion — rydw i'n un o ymddiriedolwyr Sied Dynion Abergele — ei gyflawni ac mae'n rhaid i ni annog y siediau hynny i fodoli fel y gall mwy o ddynion deimlo'n hyderus i fwrw eu bol a siarad am yr heriau sy'n eu hwynebu.
Mae un o seiciatryddion mwyaf blaenllaw’r Gogledd, Dr Alberto Salmoiraghi, Seiciatrydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cadeirio 'Sesiwn Fer Iechyd a Lles' mewn ymgais i wneud iechyd meddwl dynion yn fusnes i bawb.
Mae'r digwyddiad rhithwir, a gynhelir i nodi Mis Ymwybyddiaeth Iechyd Dynion, yn agored i unigolion a chyflogwyr sydd am gael gwell dealltwriaeth o sut i gynorthwyo dynion i ofalu am eu hiechyd meddwl yn y gwaith.
Bydd yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda phanel arbenigol sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol y GIG a chynrychiolwyr o fusnesau, elusennau iechyd meddwl a sefydliadau eraill y trydydd sector. Bydd panelwyr yn rhannu eu profiadau personol eu hunain hefyd o'r hyn sydd wedi eu helpu i ofalu am eu hiechyd meddwl a'u lles.
“Mae iechyd meddwl dynion yn fusnes i bawb ac rydyn ni'n gwybod bod gan gyflogwyr rôl allweddol wrth gynorthwyo eu gweithwyr gwrywaidd i aros yn iach yn feddyliol yn y gwaith," eglurodd Dr Salmoiraghi. “Rydyn ni'n gobeithio y bydd y sesiwn rithwir hon yn helpu pobl i gael gwell dealltwriaeth o strategaethau ymdopi a'r cymorth amrywiol sydd ar gael i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi.
Cynhelir y digwyddiad rhithwir ar 24 Tachwedd, rhwng 12.30pm a 2pm. Gellir archebu llefydd drwy Eventbrite neu drwy e-bostio Sandra Anderson o Dîm Ymgysylltu â'r Cyhoedd BIPBC yn [email protected]. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.