Sam Rowlands MS for North Wales is pleased to see a council in his region sharing vital housing information on its website.
Mr Rowlands has praised Flintshire County Council’s Housing team for launching its latest hub on the net.
He said:
I am delighted to see Flintshire County Council supporting landlords and tenants by sharing vital housing information on its website.
As we approach major changes to the Private Rented Sector in Wales, later this year it is good to see the new hub offering relevant information on these significant amendments and links to find out more about it.
Having all the information in one place will be extremely helpful for landlords and agents who own properties in Flintshire and will also be useful for tenants.
The new Hub brings together all the details on the changes and also offers information on properties for rent and much more, including: Discretionary Housing Payments; Bond Scheme; Tai Teg; Rent Smart Wales and help with rent arrears and bringing empty properties back into use.
The Hub can be accessed here.
Sam Rowlands AS yn croesawu cymorth Cyngor Sir y Fflint i landlordiaid a thenantiaid
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn falch o weld cyngor yn ei ranbarth yn rhannu gwybodaeth hanfodol am dai ar ei wefan.
Mae Mr Rowlands wedi canmol tîm Tai Cyngor Sir y Fflint am lansio ei hyb diweddaraf ar y we.
Meddai:
Rwy’n falch iawn o weld Cyngor Sir y Fflint yn cynorthwyo landlordiaid a thenantiaid drwy rannu gwybodaeth hanfodol am dai ar ei wefan.
Gyda newidiadau mawr ar droed i’r Sector Rhentu Preifat yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, da yw gweld yr hyb newydd yn cynnig gwybodaeth berthnasol am y diwygiadau pwysig hyn a’r dolenni i gael rhagor o wybodaeth.
Mae cael yr holl wybodaeth mewn un lle yn fuddiol dros ben i landlordiaid ac asiantau sy’n berchen ar eiddo yn Sir y Fflint a bydd yn ddefnyddiol iawn i denantiaid hefyd.
Mae’r Hyb newydd yn dwyn ynghyd yr holl fanylion ar y newidiadau a hefyd yn cynnig gwybodaeth am eiddo i’w rentu a llawer mwy, gan gynnwys: Taliadau Dewisol Tai; Cynllun Bond; Tai Teg; Rhentu Doeth Cymru a chymorth gyda dyledion rhent ac ailddechrau defnyddio eiddo gwag.
Gellir cyrchu’r Hyb yma.