Sam Rowlands MS for North Wales is urging constituents to get on the bus and enjoy a picturesque ride in the Dee Valley
Denbighshire County Council has recently announced the resumption of the service every Saturday from May until October 2022.
Mr Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, said:
I welcome the return of the Dee Valley Picturesque Bus service which links the popular town and tourist spot, Llangollen and the surrounding villages, to local attractions.
It is a wonderful way to visit places like Pontcysyllte Aqueduct and Plas Newydd Historic House without using your car which helps the environment and also leaves car parking spaces for those who are travelling to the area.
It is also offers those without their own vehicle the opportunity to access key destinations in this beautiful and historic part of the world. With a ticket offering a hop on and off facility and unlimited travel throughout the day it is an excellent way to see a number of sites.
The service has been made possible thanks to funding from The National Lottery Heritage Fund in Wales and delivered in partnership by Denbighshire County Council and the Our Picturesque Landscape project.
The Dee Valley Picturesque Bus Service 199 will operate Saturdays only from Saturday May 7 to Saturday October 29 2022.
For the full timetable and ticket prices for the Picturesque Bus service please see the Clwydian Range and Dee Valley AONB website, Denbighshire bus timetable webpage or pick up a leaflet from Llangollen Tourist Information Centre.
Kate Thomson, Partnership Officer for the Our Picturesque Landscape project, said they were delighted to welcome back the Dee Valley Picturesque Bus Service for a second year.
We are really pleased that this service will be able to run at the full 16 seater capacity following the pandemic. By working in partnership with Denbighshire County Council, we have been able to ensure that the service complements existing public transport provision. Connecting to bus timetables from Corwen and Wrexham makes the Picturesque Bus service the ideal option for planning walks in the area.
Sam Rowlands AS yn croesawu gwasanaeth bws newydd i wella mynediad i leoliadau allweddol yn ei ranbarth
Mae Sam Rowlands AS, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i fynd ar y bws a mwynhau taith brydferth yn Nyffryn Dyfrdwy.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych bod y gwasanaeth yn ailddechrau bob dydd Sadwrn o fis Mai hyd fis Hydref 2022.
Meddai Mr Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru:
Rwy’n croesawu’r newyddion bod gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn dychwelyd. Mae’n cysylltu tref boblogaidd Llangollen, sy’n gyrchfan i dwristiaid, gyda’r pentrefi cyfagos ac atyniadau lleol.
Mae’n ffordd hyfryd o ymweld â lleoedd fel Dyfrbont Pontcysyllte a Thŷ Hanesyddol Plas Newydd heb ddefnyddio’ch car – rhywbeth sy’n helpu’r amgylchedd ac sydd hefyd yn gadael mwy o leoedd parcio i’r rhai sy’n teithio i’r ardal.
Mae hefyd yn cynnig y cyfle i’r rhai heb eu cerbyd eu hun fynd i gyrchfannau allweddol yn y rhan hyfryd a hanesyddol hon o’r byd. Gyda thocyn sy’n cynnig cyfleuster mynd a dod oddi ar y bws a theithio diderfyn gydol y dydd, mae’n ffordd ragorol o weld llawer o safleoedd.
Mae’r gwasanaeth wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a chaiff ei ddarparu fel partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a’r prosiect Ein Tirlun Darluniadwy.
Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 yn gweithredu ar ddydd Sadwrn yn unig o ddydd Sadwrn 7 Mai hyd ddydd Sadwrn 29 Hydref 2022.
Am yr amserlen lawn a phrisiau tocynnau ar gyfer y gwasanaeth Bws Darluniadwy, ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, tudalen we amserlen bws Sir Ddinbych neu cymerwch bamffled o Ganolfan Groeso Llangollen.
Dywedodd Kate Thompson, swyddog partneriaeth prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, eu bod ar ben eu digon o gael croesawu Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn ôl am ail flwyddyn.
Rydym yn falch iawn y bydd y gwasanaeth hwn yn gallu cynnal y gwasanaeth llawn 16 sedd ar ôl y pandemig. Trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, rydym wedi gallu sicrhau bod y gwasanaeth yn cyd-fynd â darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus sy’n bodoli’n barod. Mae cysylltu ag amserlenni bws o Gorwen a Wrecsam yn gwneud y gwasanaeth Bws Darluniadwy yn opsiwn delfrydol wrth gynllunio teithiau cerdded yn yr ardal.