Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed plans to help local stargazers see the night skies.
The Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Beauty, AONB, has a new addition to the team, a green mobile observatory van, to help promote the Dark Skies initiative.
Mr Rowlands said:
What a fantastic idea. This electric powered van, which will have telescopes and astronomical equipment, will provide a perfect viewpoint for people who want to see the sky at night.
It is an excellent initiative and I particularly like the fact the van will be used for public events so that local people in Denbighshire will be able to experience the natural night sky.
Whether you are a keen astronomer or just interested in looking at the constellations and planets it will offer something for everyone.
Following a public consultation last year, the Clwydian Range and Dee Valley AONB is in the process of applying for Dark Sky Community status with the International Dark Sky Association.
Dark Skies status provides advice and guidance for developers and others on good lighting design in the AONB with the aim to guarantee astronomers, enthusiasts and casual observers can actually see the night sky in all its glory.
Clwydian Range and Dee Valley AONB staff will use the van to run Dark Skies public events across the local area to give people the opportunity to experience natural night sky.
Emlyn Jones, the Council’s Head of Service for Countryside, said:
We have some amazing night skies in the local area and this initiative will help people get closer to them through the great facility the Dark Skies van provides.
The Clwydian Range and Dee Valley AONB has produced a number of star gazing guides to help people find the major constellation in the night sky – they also tell some of the Welsh folk stories associated with the constellations and the Welsh names of them.
Sam Rowlands AS yn croesawu arsyllfa symudol newydd i ganolbwyntio ar awyr y nos yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, wedi croesawu cynlluniau i helpu syllwyr sêr lleol i weld awyr y nos.
Mae gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, AHNE, ychwanegiad newydd at y tîm, sef fan arsylwi symudol werdd, er mwyn helpu i hyrwyddo’r fenter Awyr Dywyll.
Meddai Mr Rowlands:
Am syniad gwych. Mae’r fan drydan hon, a fydd yn cynnwys telesgopau a chyfarpar seryddol, yn cynnig y lle delfrydol i edmygu’r olygfa berffaith i bobl sydd am weld yr awyr fin nos.
Os ydych chi’n seryddwr brwd neu dim ond â diddordeb mewn edrych ar y cytserau a’r planedau, bydd rhywbeth at ddant pawb.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wrthi’n gwneud cais am statws Cymuned Awyr Dywyll gyda’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.
Mae statws Awyr Dywyll yn rhoi cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr ac eraill ar gynllunio goleuadau da yn yr AHNE gyda’r nod o roi sicrwydd i seryddwyr, cefnogwyr ac arsyllwyr achlysurol y gallant weld awyr y nos yn ei holl ogoniant.
Bydd staff Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn defnyddio’r fan i gynnal digwyddiadau cyhoeddus Awyr Dywyll ledled yr ardal leol gan roi cyfle i bobl brofi awyr naturiol y nos.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor:
Mae gennym awyr y nos anhygoel yma yn yr ardal a bydd y fenter hon yn helpu pobl i gael profiad gwerth chweil, diolch i gyfleuster gwych y fan Awyr Dywyll.
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi llunio llawer o ganllawiau syllu ar y sêr i helpu pobl i ddod o hyd i’r cytserau mwyaf yn awyr y nos – maen nhw hefyd yn rhannu ambell chwedl Gymreig sy’n gysylltiedig â’r cytserau a’u henwau Cymraeg.