Sam Rowlands MS for North Wales is delighted to hear about a major investment in the former Kellogg site in Wrexham.
Mr Rowlands was commenting after it was announced that Kellanova, formerly the Kellogg Company will be investing £75m in the factory and creating another 130 jobs.
He said:
I am absolutely delighted to hear this news as it is fantastic to see such a huge commitment to Wrexham.
Everybody knows how passionate I am to see North Wales thrive and grow its economy and I am especially pleased to see major investment in North East Wales and the creation of 130 jobs.
Wrexham is, as we all know, the destination of choice for many visitors and this news just shows how important the city has become not just attracting tourists but investment in its future as well.
Kellanova, formerly the Kellogg Company, will be investing £75m in the factory which is the largest largest single investment in British cereal production in over 30 years.
Cereal production will more than double, establishing Wrexham as the largest cereal manufacturing site in Europe.
As well as increasing capacity, two new advanced production lines will enhance the sustainability of cereal manufacturing by enabling use of artificial intelligence and machine learning technology to lower energy consumption during the production process. This will help reduce the CO2 emissions of our cereal production by 11%. The new production technology also means that more raw materials, for example rice, can be used, delivering a ten-fold reduction in food waste across the supply chain.
Importantly, the investment will lead to the creation of at least 130 jobs in Wrexham and support career development for the 350 existing colleagues based there. It will also fund significant upgrades to the site’s training facilities as part of our drive to provide our employees with opportunities to develop and advance their careers.
Sam Rowlands AS yn croesawu'r newyddion am fuddsoddiad mawr a swyddi i’r Gogledd
Mae Sam Rowlands AS dros y Gogledd yn falch iawn o glywed am fuddsoddiad mawr yn hen safle Kellogg yn Wrecsam.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud sylwadau ar ôl y cyhoeddiad y bydd Kellanova, sef Cwmni Kellogg gynt, yn buddsoddi £75 miliwn yn y ffatri ac yn creu 130 yn rhagor o swyddi.
Dywedodd:
Rwy'n falch iawn o glywed y newyddion gan ei bod yn wych gweld ymrwymiad mor enfawr i Wrecsam.
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i weld y Gogledd yn ffynnu a’i heconomi’n tyfu, ac rwy'n arbennig o falch o weld buddsoddiad mawr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a chreu 130 o swyddi.
Mae Wrecsam, fel y gwyddom i gyd, yn gyrchfan o ddewis i lawer o ymwelwyr ac mae'r newyddion yma’n dangos pa mor bwysig y mae'r ddinas wedi dod, nid yn unig o ran denu twristiaid ond buddsoddiad yn ei dyfodol hefyd.
Bydd Kellanova, Cwmni Kellogg gynt, yn buddsoddi £75 miliwn yn y ffatri, sef y buddsoddiad unigol mwyaf mewn cynhyrchu grawnfwydydd ym Mhrydain ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
Bydd cynhyrchiant grawnfwydydd yn mwy na dyblu, gan sefydlu Wrecsam fel y safle gweithgynhyrchu grawnfwyd mwyaf yn Ewrop.
Yn ogystal â chynyddu capasiti, bydd dwy linell gynhyrchu uwch newydd yn gwella cynaliadwyedd gweithgynhyrchu grawnfwyd trwy alluogi’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a thechnoleg dysgu peiriannau i leihau'r defnydd o ynni yn ystod y broses gynhyrchu. Bydd hyn yn helpu i leihau allyriadau CO2 ein gwaith cynhyrchu grawnfwyd 11%. Mae'r dechnoleg gynhyrchu newydd yn golygu hefyd y gellir defnyddio mwy o ddeunyddiau crai, er enghraifft reis, gan sicrhau gostyngiad mewn gwastraff bwyd i un rhan o ddeg ar draws y gadwyn gyflenwi.
Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd y buddsoddiad yn arwain at greu 130 a mwy o swyddi yn Wrecsam ac yn cefnogi datblygiad gyrfa ar gyfer y 350 o gydweithwyr presennol sydd wedi'u lleoli yno. Bydd yn ariannu gwaith uwchraddio sylweddol i gyfleusterau hyfforddi'r safle hefyd fel rhan o'n hymgyrch i ddarparu cyfleoedd i'n gweithwyr ddatblygu a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.