Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed an update on the resettlement of Ukrainian families in the county.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was commenting after Denbighshire County Council announced they were now contacting volunteers who have offered to house the refugees.
He said:
It is great to see this local support for Ukraine and I am absolutely delighted to hear this latest news and look forward to welcoming Ukrainian families to the area.
I am sure everyone has seen the harrowing scenes from Ukraine on the news and like me, can’t believe what is happening over there. My heart goes out to everyone involved in the conflict.
I am pleased by the way local authorities have responded and praise must also go to volunteers who have offered to house families from Ukraine.
As part of its on-going commitment to support the UK Resettlement Scheme, Denbighshire County Council is contacting all residents who have offered support to those displaced by the conflict.
Denbighshire has a long history of accommodating and supporting refugees and over the last five years the Council has resettled 25 families, made up of 95 individuals, predominantly in response to the refugee crisis in Syria and Afghanistan.
If anyone has any enquiries, or would like to offer accommodation, they should email [email protected] and for more information visit https://gov.wales/homes-ukraine-guidance-sponsors-html
Sam Rowlands AS yn croesawu’r newyddion y bydd ffoaduriaid o Wcráin yn setlo yn Sir Ddinbych cyn bo hir
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru wedi croesawu diweddariad ynghylch teuluoedd o Wcráin sy’n dod i aros yn y sir.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, yn gwneud y sylwadau wedi i Gyngor Sir Ddinbych gyhoeddi ei fod bellach yn cysylltu â gwirfoddolwyr sydd wedi cynnig rhoi lle i ffoaduriaid.
Dywedodd:
Mae’n wych gweld y cymorth lleol hwn i Wcráin. Rydw i wrth fy modd yn clywed y newyddion diweddaraf ac yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd Wcráin i’r ardal.
Heb os, mae pawb wedi gweld y golygfeydd erchyll o Wcráin ar y newyddion ac, fel fi, yn methu credu’r hyn sy’n digwydd yno. Mae fy nghalon i’n gwaedu dros bawb sydd wedi cael eu dal yn y gwrthdaro.
Mae’n wych gweld y ffordd y mae awdurdodau lleol wedi ymateb ac mae’n rhaid i mi ganmol y gwirfoddolwyr sydd wedi cynnig lle i deuluoedd o Wcráin.
Fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i gefnogi Cynllun Adsefydlu y DU, mae Cyngor Sir Ddinbych yn cysylltu â’r holl drigolion sydd wedi cynnig cefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u dadleoli gan y gwrthdaro.
Mae gan Sir Ddinbych hanes hir o gefnogi a darparu lle i ffoaduriaid, ac yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae’r Cyngor wedi adsefydlu 25 o deuluoedd, sy’n cynnwys 95 o unigolion, yn bennaf mewn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid yn Syria ac Affganistan.
Os oes gan rywun unrhyw ymholiadau, neu os hoffech chi gynnig lle, dylech e-bostio [email protected] ac am ragor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/cartrefi-i-wcrain-canllawiau-i-noddwyr-html