Sam Rowlands MS for North Wales, is delighted to see his home town named as one of the best in the UK for a caravan holiday.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for North Wales, said:
As more and more people are still turning to caravan holidays and staycations it is great to see Abergele, doing so well in a national survey.
To come in at joint seventh above places like St Austell is a fantastic achievement and certainly augurs well for the Summer.
It is a great place to live, work and holiday and I am delighted to see the town being recognised in this way. It was also pleasing to see Holyhead and Brynteg on Anglesey coming out on top for the lowest traffic accident rates.
Abergele was given a score of 6.4/10 for an overall staycation after research by Moneybarn, a vehicle finance leasing company. Factors included reviews, road safety, attractions, the weather and the cost of caravan rental in July.
Bridport in Dorset with an overall staycation score of 7.5/10 was named the best destination for a caravan staycation.
Research also showed two areas on Anglesey, Holyhead and Brynteg were recognised for the best road safety in the UK showing 71 accidents per 100,000 people.
Sam Rowlands AS yn croesawu’r newyddion bod trefi yng Ngogledd Cymru wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol
Mae Sam Rowlands, sy’n Aelod o’r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru, wrth ei fodd o weld ei dref enedigol yn cael ei henwi fel un o'r rhai gorau yn y DU ar gyfer gwyliau carafán.
Yn ôl Mr Rowlands, llefarydd yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru:
Wrth i fwy a mwy o bobl barhau i ddewis mynd ar wyliau gartref mewn carafán, mae’n wych gweld bod Abergele wedi gwneud cystal mewn arolwg cenedlaethol.
Mae dod yn gydradd seithfed – a hynny uwchben llefydd fel St Austell – yn gryn gyflawniad ac yn bendant yn argoeli’n dda ar gyfer yr haf.
Mae’n lle gwych i fyw, gweithio a mynd ar wyliau ac rwy’n hynod falch o weld y dref yn cael ei chydnabod i’r perwyl hwn. Braf hefyd oedd gweld mai Caergybi a Brynteg ar Ynys Môn sydd â’r nifer isaf o ddamweiniau traffig.
Rhoddwyd sgôr cyffredinol o 6.4/10 i Abergele am wyliau gartref, yn dilyn ymchwil gan Moneybarn, sy’n gwmni prydlesu cyllid cerbydau. Ymhlith y ffactorau roedd adolygiadau, diogelwch ar y ffyrdd, atyniadau, y tywydd a’r gost o rhentu carafán ym mis Gorffennaf.
Cafodd Bridport yn Dorset – gyda sgôr cyffredinol o 7.5/10 am wyliau gartref – ei enwi fel y gyrchfan orau ar gyfer aros mewn carafán.
At hynny, dangosodd ymchwil fod dwy ardal ar Ynys Môn – sef Caergybi a Brynteg – wedi cael cydnabyddiaeth am y diogelwch gorau ar y ffyrdd yn y DU, gyda 71 o ddamweiniau fesul 100,000 o bobl.